Mihangel Morgan

bardd, darlithydd (1955- )

Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955, Trecynon)[1] yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi.[2] Bu'n geinlythrennydd (caligrapher) yn Rhuthun, Sir Ddinbych ar ddechrau'r 80au ac mae bellach yn byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.

Mihangel Morgan
Ganwyd7 Rhagfyr 1955 Edit this on Wikidata
Trecynon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, darlithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Daw'n wreiddiol o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddyn hoyw sy'n gwbl agored am ei rywioldeb.[3] Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Llyfryddiaeth golygu

Astudiaethau golygu

  • Rhiannon Marks, Y Dychymyg Ôl-fodern: Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cyfnewidfa Lên Cymru - Mihangel Morgan. Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
  2. Elfed Davies: "1799 Carmel Eglwys Presbyteraidd Cymru Trecynon 1996" (Pink Panther Digital Solutions)
  3. "Merch mewn corff bachgen", Adolygiad y BBC o "Pan Oeddwn Fachgen." Adalwyd ar 30-07-2009.

Dolenni allanol golygu