Erthygl am yr awdur Cymreig o Gaerdydd yw hwn. Am y chwaraewr hoci-iâ Americanaidd, gweler: Mike Crowley (hoci-iâ).

Mae Mike Crowley (ganwyd 1948 yng Nghaerdydd) yn ysgolor, yn awdur, yn gyfansoddwr ac yn ieithydd sy'n siarad Cymraeg, Sanskrit, Lladin, Ffrangeg, Tibeteg, Saesneg ac Almaeneg.[1]

Mae'n chwarae nifer o offerynnau cerdd, ac wedi perfformio jazz, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth glasurol dros y blynyddoedd gyda phobl megis Herbie Hancock a Wayne Shorter, Todd Rundgren a'r pibydd uillean - Paddy Keenan. Mae'n arbenigo mewn offerynnau hynafol, yn gynllunydd gwefanau ac yn "ddyn y Dadeni modern"[angen ffynhonnell].

Mae'n byw yn Nghaliffornia ers 1988 ac mae'n awdur llawer o lyfrau ynghylch Bwdhaeth. Ei lyfr diweddaraf yw Secret Drugs of Buddhism.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan We Can Make It adalwyd 23 Gorffennaf 2013.