Math o gi hela yw milgi (benywaidd: miliast; lluosog: milgwn/milieist), sydd wedi cael ei fridio'n bennaf ar gyfer hela adar a chwnigod, ac ar gyfer rasio, ond yn ddiweddar maen nhw wedi dod yn boblogaidd iawn fel anifeiliaid anwes. Mae'n frîd tyner a deallus sy'n aml yn datblygu perthynas agos â'i berchennog. Dyma hefyd yw'r brîd cyflymaf o gi.[1] Mae gan filgi gyfuniad o goesau hirion pwerus, brest ddofn, asgwrn cefn hyblyg a chorffolaeth fain sy'n galluogi iddo gyrraedd cyflymder hyd at tua 17 metr yr eiliad/61 km yr awr.[2][3][4]

Milgi
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathtremgi Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dyn gyda milgi; tua 1875].

Llên gwerin golygu

Mae gan y filiast le amlwg yn llên gwerin a mytholeg Cymru a'r Celtiaid. Mae enwau henebion cynhanesyddol sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llety'r Filiast (Y Gogarth, Llandudno), Llety'r Filiast (ger Rowen), Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. [5] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.

Cyfeiriadau golygu

  1. Breeds Of Dogs, Greyhound: General Description Of Breed
  2. "Limits to running speed in dogs, horses and humans" Denny, M. The Journal of Experimental Biology 2008 (211) 3836-3849.
  3. "High speed locomotion: Insights from cheetahs and racing greyhounds" Hudson P. et al Comparative Biochemistry and Physiology, Part A 153 (2009) S114–S133.
  4. "Acceleration in the racing greyhound" Williams S., et al Comparative Biochemistry and Physiology, Part A 146 (2007) S107–S127
  5. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.