Minimaliaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, arddull pensaernïol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmwyafsymiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Carl Andre: 43 Roaring forty (1968), Amgeuddfa Kröller-Müller, Otterlo

Celf weledol golygu

Nifer o arddulliau celfyddydol lle na chaiff dim ond nodweddion sylfaenol y gwaith eu diosg yw minimaliaeth. Mae'n cyfeirio fel y mudiad Avant-garde a'r arfer at ddatblygiadau yng nghelfyddyd y Gorllewin ar ôl yr Ail Ryfel Byd; mae'r enghreifftiau amlycaf yng nghelfyddydau gweledol yr Unol Daleithiau yn y 1960au a'r 1970au, yng ngwaith artistiaid megis Donald Judd, Agnes Martin, Robert Morris a Frank Stella. Deilliodd o rai tueddiadau modernaidd, a gellir ei dehongli fel ymateb yn erbyn mynegiadaeth haniaethol, ac yn rhagflaeniad i arferion celfyddydol ôl-fodernaidd.

Cerddoriaeth golygu

Cyfeiria minimalaeth hefyd at arddull cerddorol sy'n ddibynnol ar ailadrodd ac iteriad, megis yng ngwaith Steve Reich, La Monte Young, Philip Glass, John Adams a Terry Riley. Yn anffurfiol, disgrifir unrhyw beth or-gynnil yn finimol: llenyddiaeth Samuel Beckett a Raymond Carver, ffilmiau Robert Bresson a chynlluniau ceir Colin Chapman, er enghraifft.

  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.