Llenor yn yr iaith Wrdw oedd Mir Amman (fl. ail hanner y 18g a dechrau'r 19g), a aned yn Delhi, India.

Mir Amman
Ganwyd1748 Edit this on Wikidata
Delhi Edit this on Wikidata
Bu farw1806 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

O Delhi i Calcutta golygu

Ychydig sy'n hysbys amdano. Cafodd ei eni yn Delhi i deulu o swyddogion teuluol pur bwysig yn y llys Mughal, rywbryd rhwng canol y 18g a thua 1770-1780.

Am resymau economaidd bu rhaid iddo adael Delhi tua diwedd y 18g a chafodd waith fel munshi (math o glerc) yn Ngholeg Fort William, Calcutta, oedd yn cael ei redeg gan Cwmni Prydeinig Dwyrain India.

Yn ystod ei dymor yn y coleg hwnnw ysgrifennod Mir Amman drosiad Wrdw o'r llyfr Perseg Qissa-e-Chahār Darvesh (tua'r 14g) a llyfr etiquette Husain Wāiz Kāshifī, Akhalāq-e-Muhsinī a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan y teitl Ganj-e-Khoobī (Trysordy Rhinwedd). Yr ieithydd John Gilchrist a anogodd Mir Amman i sgwennu yn Wrdw.

Hanes y Pedwar Derfish golygu

Ei brif waith yw'r cyfieithiad gwreiddiol o'r Qissa-e-Chahār Darvesh, dan yr enw Bāgh-o-Bahār, a orffenodd yn 1803. Ei ystyr llythrennol yw "Hanes y Pedwar Derfish". Er ei fod yn gyfieithiad, torrodd y gyfrol dir newydd yn hanes yr iaith Wrdw ifanc; cyn hynny dim ond ar gyfer barddoniaeth y defnyddiwyd Wrdw, gan fod yr iaith Berseg yn cael ei hystyried yn fwy addas ac urddasol at y dasg o sgwennu rhyddiaith. Math o batois oedd y newydd-ddyfodiad Wrdw o'i chymharu â'r Berseg glasurol ym marn llawer. Cyfieithiad Amman oedd yr ail i gael ei wneud yn Wrdw, ond ni chafodd y cyntaf fawr o dderbyniad am fod ei iaith yn annaturiol ac anystwyth; ysrifenodd Amman ar y llaw arall mewn Wrwd llafar ond urddasol.

Mae Hanes y Pedwar Derfish yn gampwaith bach a anghofiwyd am hir. O ran ei stwythr mae'n debyg iawn i'r Nosweithiau Arabaidd sydd mor adnabyddus yn y Gorllewin, ond yn byrrach o lawer. Mae'n defnyddio framwaith o bump prif stori gyda sawl is-stori ynghlwm wrthyn' nhw. Ceir ynddo ddigon o "sbeis" dwyreiniol - carwriaethau, arwriaeth, antur, merched hardd a'r goruwchnaturiol - wrth i'r pedwar prif gymeriad adrodd eu helyntion. Tri thywysog a mab marsiandiwr cyfoethog ydyn' nhw, ill pedwar wedi troi cefn ar y byd am eu bod wedi'u siomi mewn cariad. Er mwyn diddanwch ac er mwyn dangos maint eu dioddefiant maen' nhw'n adrodd straeon am bobl llai ffodus byth a gyfarfuant ar eu teithiau. Daw nifer o'r straeon o fewn straeon hyn o fyd llên gwerin ac yn ogystal maen' nhw'n llawn o frasluniau ffres a chofiadwy o'r ffordd o fyw yn y gymdeithas draddodiadol yn India yng nghyfnod plentyndod Mir Amman.

Llyfryddiaeth golygu

Yr unig gyfieithiad o Hanes y Pedwar Derfish yw:

  • Mohammed Zakir (gol.), Mir Amman: A Tale of Four Dervishes (Penguin India, Delhi Newydd, 1994). ISBN 0140245731