Moel Penamnen

mynydd (628.3m) yng Ngwynedd

Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Penamnen; cyfeiriad grid SH716483. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470 a Bwlch y Gerddinen. Saif Llynnau Barlwyd i'r gorllewin o'r copa, ac mae ffîn Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. I'r gogledd-ddwyrain mae Cwm Penamnen yn ymestyn tua'r gogledd i gyfeiriad Dolwyddelan. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 490metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Moel Penamnen
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr623 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0166°N 3.9155°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH716483 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd138 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaManod Mawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Moelwynion Edit this on Wikidata
Map

Gellir ei ddringo o Fwlch y Gerddinen, dros gopa is Moel Farlwyd, neu o Gwm Penamnen. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu