Moel-y-Gaer, Llanbedr Dyffryn Clwyd

bryngaer yn Llanbedr Dyffryn Clwyd

Mae Moel-y-Gaer yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, Cymru; cyfeirnod OS: SJ148617.

Moel y Gaer
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.146°N 3.2742°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ14906175 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE010 Edit this on Wikidata
Moel y Gaer o gyfeiriad y llwybr i fyny Moel Famau - o Fwlch Pen Barras

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE010.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Sefydlwyd y gaer Geltaidd ar ei gopa yn Oes yr Haearn - tua 2500 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r fynedfa i mewn i'r gaer yn gymhleth ac wedi'i chreu o system o ffosydd er mwyn atal y gelyn rhag llwyddo i ymosod ar y gaer. Cafwyd peth cloddio gan yr archaeolegwr Wynne Ffoulkes yno yn 1849. Ceir golygfa gwych oddi yma: rhan deheuol o ddyffryn Clwyd, gyda Rhuthun ar y naill law a'r môr ar y llaw arall i gyfeiriad y gogledd. Tair hectar yw maint y gaer.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Cafwyd arolwg o'r gaer yn 2007 a darganfuwyd ôl 15 o dai a llawer o ôl llosgi, yn enwedig yn y fynedfa.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Delweddau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  4. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. [1][dolen marw] Moel y Gaer (ffeil PDF)