Gwleidydd o'r Aifft oedd Mohamed Morsi (8 Awst 195117 Mehefin 2019). Roedd yn Arlywydd yr Aifft o 30 Mehefin 2012 hyd 3 Gorffennaf 2013, pan gafodd ei ddisodli gan coup milwrol yn dilyn protestiadau mawr ar y strydoedd yn erbyn ei lywodraeth Islamaidd.[1] Roedd yn arweinydd Plaid Rhyddid a Chyfiawnder, cangen wleidyddol y Frawdoliaeth Fwslimaidd yn yr Aifft. Morsi oedd yr arlywydd cyntaf i gael ei ethol yn ddemocrataidd yn yr Aifft.

Mohamed Morsi
Ganwyd8 Awst 1951 Edit this on Wikidata
El-Adwah Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Tora Prison Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Aifft, Republic of Egypt, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Yr Aifft Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, peiriannydd, academydd, materials scientist Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd yr Aifft, Secretary General of the Non-Aligned Movement Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Taleithiol California, Northridge
  • Prifysgol Zagazig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFreedom and Justice Party Edit this on Wikidata
PriodNaglaa Mahmoud Edit this on Wikidata
PlantAbdullah Morsi Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the Nile, Order of the Republic, Order of Merit, Order of Independence, Urdd y Rhinweddau Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd wedi bod yn y ddalfa ers ei ddisodli. Yn Mehefin 2019 roedd yn y llys yng Nghairo yn ateb cyhuddiadiad o ysbïo. Ymgwympodd a bu farw yn ddiweddarach, mae'n debyg o drawiad ar y galon.

Cyfeiriadau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Eifftiwr neu Eifftes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.