Mohammad Reza Pahlavi

gwleidydd, teyrn (1919-1980)

Shah neu frenin olaf Iran oedd Mohammad Rezā Shāh Pahlavi (Perseg: محمدرضاشاه پهلوی, IPA: [mohæmˈmæd reˈzɒː ˈʃɒːhe pæhlæˈviː]; 26 Hydref 191927 Gorffennaf 1980) a reolodd y wlad o 16 Medi 1941 hyd ei ddymchweliad yn Chwyldro Islamaidd Iran ar 11 Chwefror 1979. Ef oedd yr ail frenin yn y frenhinllin Pahlavi. Ymysg ei deitlau oedd Ei Fawrhydi Imperialaidd, Shahanshah (Brenin Brenhinoedd,[1] Ymerawdwr), Aryamehr (Golau'r Ariaid), a Bozorg Arteshtārān (Pennaeth y Rhyfelwyr,[2] Perseg: بزرگ ارتشتاران).

Mohammad Reza Pahlavi
Ganwyd26 Hydref 1919 Edit this on Wikidata
Tehran Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1980 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPahlavi Iran Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Institut Le Rosey Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddShah Edit this on Wikidata
TadReza Shah Edit this on Wikidata
MamTadj ol-Molouk o Iran Edit this on Wikidata
PriodFawzia Fuad, Soraya Esfandiary-Bakhtiari, Farah Pahlavi Edit this on Wikidata
PlantShahnaz Pahlavi, Reza Pahlavi, Farahnaz Pahlavi, Ali-Reza Pahlavi, Leila Pahlavi Edit this on Wikidata
LlinachPahlavi dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroix de guerre 1939–1945, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd y Llew Gwyn, Urdd y Sbardyn Aur, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Cadwen Frenhinol Victoria, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, The honorary doctor of Lebanese University, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Grand Cross of the Order of the Liberator General San Martín, Urdd y Cymylau Ffafriol, Urdd y Gwaredwr, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Urdd Teilyngdod am Sefydliad Cenedlaethol, Urdd y Miliwn o Eliffantod a'r Parasol Gwyn, Marchog Urdd yr Eliffant Edit this on Wikidata
llofnod

Daeth Mohammad Reza i rym yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi i oresgyniad Iran gan Brydain a'r Undeb Sofietaidd orfodi ei dad, Reza Shah, i ymddiorseddi. Yn ystod ei deyrnasiad, cafodd diwydiant olew Iran ei wladoli dan y Prif Weinidog Mohammad Mosaddegh, a nodwyd 2,500 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Persia gan Cyrus Fawr a phen-blwydd y frenhiniaeth. Llwyddodd diwygiadau economaidd a chymdeithasol y Chwyldro Gwyn, a fwriadwyd gan y Shah i droi Iran yn bŵer mawr ar y lwyfan ryngwladol, i foderneiddio'r wlad trwy wladoli nifer o adnoddau naturiol a rhoi'r bleidlais i fenywod.

Mwslim seciwlar oedd Mohammed Reza, ac yn raddol collodd cefnogaeth y glerigiaeth Shi'a yn Iran, yn enwedig oherwydd ei bolisïau o foderneiddio a seciwlareiddio, y gwrthdaro rhyngddo a dosbarth traddodiadol y bazaari, ac am gydnabod Israel. Bu ffactorau eraill yn ychwanegu i'r tensiynau, megis coup d'état 1953, gwaharddiad ar y Blaid Tudeh gomiwnyddol, arestio a charcharu nifer o garcharorion gwleidyddol, a gormes gwleidyddol gan yr asiantaeth cudd-wybodaeth SAVAK. Erbyn 1979, gorfodwyd y Shah i adael y wlad yn sgîl chwyldro, ac yn fuan diddymwyd y frenhiniaeth yn ffurfiol a datganwyd Iran yn weriniaeth Islamaidd. Bu farw'n alltud yn yr Aifft wedi i'r Arlywydd Anwar Sadat roi lloches iddo.

Ers dechrau'r 1990au, mae enw'r Shah wed ei adfer rhywfaint, ac mae nifer o Iraniaid yn edrych yn ôl ar ei deyrnasiad fel oes fwy llewyrchus i'r wlad[3][4] gyda llywodraeth lai gormesol.[5] Yn ôl y newyddiadurwr Afshin Molavi, mae hyd yn oed pobl dlawd ac annysgedig, cefnogwyr traddodiadol y Chwyldro Islamaidd, i'w clywed yn gwneud sylwadau megis "bendith Duw ar enaid y Shah, roedd yr economi yn well y pryd hwnnw", a dywed Molavi "mae llyfrau am y Shah (hyd yn oed y rhai a gaiff eu sensro) yn gwerthu'n gyflym".[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. D. N. MacKenzie. A Concise Pahlavi Dictionary. Routledge Curzon, 2005.
  2. M. Mo'in. An Intermediate Persian Dictionary. Six Volumes. Amir Kabir Publications, 1992.
  3. Molavi, Afshin, The Soul of Iran, Norton (2005), t. 74
  4. Adroddiad Iran, 2 Chwefror 2004
  5. Sciolino, Elaine, Persian Mirrors, Touchstone, (2000), tt. 239, 244
  6. Molavi, Afshin, The Soul of Iran, Norton (2005), tt. 74, 10