Morfudd ferch Urien

Yn nhraddodiad Cymru'r Oesoedd Canol, merch Urien Rheged gan Modron, a chwaer efell yr arwr Owain ab Urien yw Morfudd ferch Urien. Cyfeirir at Forfudd yn y casgliad o ddeunydd mnemonig Trioedd Ynys Prydain a hefyd yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Cyfeirir at y cariad anfarwol rhwng Morfudd a Cynon fab Clydno, arwr o'r Hen Ogledd sy'n un o ryfelwyr Arthur yn nhraddodiad yr Oesoedd Canol, mewn rhai o'r Trioedd, sy'n awgrymu y bu chwedl boblogaidd am y carwyr yn cylchredeg yn yr Oesoedd Canol.

Mae Morfudd a'i frawd Owain yn ymddangos mewn hen chwedl werin Cymraeg a gysylltir a Llanferres, yn awr yn Sir Ddinbych. Gerllaw Llanferres roedd rhyd a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Gellir dosbarthu'r chwedl am Ryd-y-gyfarthfa yn y dosbarth o chwedlau Celtaidd am 'olchwraig y rhyd' a duwies sofraniaeth.

Er na chyfeirir ati ac Owain fel ei chwaer a'i frawd fel rheol, mae Morfudd yn chwaer i'r cymeriad chwedlonol Mabon fab Modron hefyd, ond ymddengys fod y ddau draddodiad wedi tyfu'n annibynnol ar ei gilydd.

Cyfeiriadau golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru), 1961; argraffiad newydd 1996)
  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X

Gweler hefyd golygu