Brenin Powys yng nghanol rhan gyntaf y 6g oedd Morgan ap Pasgen (bl. tua 540, efallai).

Morgan ap Pasgen
Ganwyd520 Edit this on Wikidata
Bu farw550 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadPasgen ap Cyngen Edit this on Wikidata

Os ydy'r dystiolaeth amdano yn ddilys, teyrnasodd mewn cyfnod pan oedd teyrnas Powys yn ymestyn dros y ffin bresennol i orllewin canolbarth Lloegr ac yn rhan o diriogaeth Frythonig a ymestynnai o'r Hen Ogledd hyd Dyfnaint a Chernyw. Yn ôl Achresau Harley, yr oedd Morgan ei hun yn un o'r Cadelling, disgynyddion Cadell Ddyrnllwg o'r Hen Ogledd, sefydlydd traddodiadol llinach frenhinol Powys yn ôl Nennius.[1]

Daeth Morgan i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, Pasgen ap Cyngen. Fel pob un o deyrnoedd Powys yn y cyfnod yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano heb law'r achau traddodiadol. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan Brochwel Ysgithrog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams, Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. 19.