Morys Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr

gwleidydd a dyn chwaraeon

Roedd Morys George Lyndhurst Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr KBE PC DL (16 Mehefin 1919 - 23 Ionawr 2005) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig. O 1999 hyd ei farwolaeth bu'n un o naw deg dau o arglwyddi etifeddol yn Nhŷ'r Arglwyddi.[1][2]

Morys Bruce, 4ydd Barwn Aberdâr
Ganwyd16 Mehefin 1919 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 2005 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadClarence Bruce Edit this on Wikidata
MamMargaret Bethune Black Edit this on Wikidata
PriodMaud Helen Sarah Dashwood Edit this on Wikidata
PlantAlastair Bruce, James Bruce, Henry Adam Francis Bruce, Charles Benjamin Bruce Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Bailiff Grand Cross of the Order of Saint John Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd yn fab hynaf Clarence Bruce, 3ydd Barwn Aberdâr, a Margaret Bethune Black. Olynodd i deitl ei dad ym 1957.[3]

Addysgwyd Bruce yng Ngholeg Winchester a Choleg Newydd, Rhydychen, lle bu'n darllen Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg.

Gyrfa golygu

Wrth i'w cyfnod yn y coleg tynnu at ei derfyn dechreuodd yr Ail Ryfel Byd. Ymrestrodd Bruce gyda'r Gwarchodlu Cymreig. Wedi'r Rhyfel bu'n gweithio ym maes darlledu gyda chwmni J Arthur Rank ac wedyn gyda'r BBC.

Ym 1970, daeth yn Weinidog Gwladol dros yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol; ym 1974, cafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor a daeth yn Weinidog heb Bortffolio. Rhwng 1976 a 1992, bu'n Cadeirydd Pwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi, (Dirprwy Llefarydd Tŷ'r Arglwyddi). Yn 1984, cafodd ei greu yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Ar ôl i Ddeddf Tŷ'r Arglwyddi 1999 atal arglwyddi etifeddol rhag eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn rhinwedd eu hachau, daeth Arglwydd Aberdâr yn un o'r naw deg dau o bendefigion etifeddol a etholwyd i aros yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Diddordebau golygu

Roedd yr Arglwydd Aberdâr yn hoff iawn o denis brenhinol. Enillodd pencampwriaeth sengl amatur Prydain yn y gamp bedair gwaith rhwng 1953 a 1957, a bu'n bencampwr amatur dwbl bedair gwaith rhwng 1954 a 1961. Bu'n llywydd y Gymdeithas Tenis a Raced o 1972 hyd 2004.

Arglwydd Aberdâr oedd Llywydd Ymddiriedolaeth Gymreig Llundain, sy'n rhedeg Canolfan Gymreig Llundain, o 1959 hyd 1962, ac o 1969 i 1970.[4]

Teulu golygu

Ym 1946 priododd Maud Helen Sarah Dashwood, merch Syr John Lindsay Dashwood, 10fed Barwnig, a Helen Moira Eaton. Bu iddynt bedwar o blant:

  • Alastair John Lyndhurst Bruce, 5ed Barwn Aberdâr (2 Mai 1947)
  • Yr Anrhydeddus James Henry Morys Bruce (tua 28 Rhagfyr 1948)
  • Yr Anrhydeddus Henry Adam Francis Bruce (5 Chwefror 1962)
  • Yr Anrhydeddus Charles Benjamin Bruce (29 Mai 1965)

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, D. L., (2008). BRUCE, MORYS GEORGE LYNDHURST, 4ydd Barwn Aberdâr (1919-2005), gwleidydd a dyn chwaraeon. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 17 Chw 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c6-BRUC-LYN-1919
  2. December 01). Aberdare, 4th Baron, (Morys George Lyndhurst Bruce) (16 June 1919–23 Jan. 2005). WHO'S WHO & WHO WAS WHO[dolen marw]. Adalwyd 16 Chwef 2019
  3. https://www.theguardian.com/news/2005/feb/19/guardianobituaries.politics Guardian Obituaries: Lord Aberdare]] Adalwyd 16 Chwef 2019
  4. Cymru Llundain Our Former Presidents Adalwyd 16 Chwef 2019
Rhagflaenydd:
Clarence Bruce
Barwn Aberdâr
19572005
Olynydd:
Alastair Bruce