Mount Pleasant, Abertawe

Ardal yn agos i ganol dinas Abertawe yw Mount Pleasant. Lleolir o amgylch prif heol y ddinas, i'r gogledd o'r canol iawn, ac mae hi'n cysylltu canol Abertawe i'r maestrefi Townhill a Mayhill i'r gogledd. Fe'i lleolir o fewn Ward y Castell.[1] Bryn hyfryd yw ystyr lythrennol yr enw Mount Pleasant; er hynny ni ddylid cymysgu yr ardal hon â'r gymuned gwahanol o Brynhyfryd, Abertawe, sydd wedi ei leoli bron i 3 km i ffwrdd.

Mount Pleasant, Abertawe
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6236°N 3.95°W Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Mount Pleasant.

Mae Mount Pleasant yn cynnwys cartrefi yn bennaf sydd wedi'u lleoli ar lethrau serth de-ddwyrain Townhill. Lleolir un o gampysau Prifysgol Fetropolitan Abertawe ar y brif heol.

Croesa Stryd Mansel, Stryd De La Beche, Grove Place a Heol Alexandra ran ddeheuol yr ardal fel tramwyfa parhaus. Ar y dramwyfa hon ceir Llys Ynadon Abertawe, Gorsaf heddlu Canol Abertawe, Oriel Gelf Glynn Vivian, hen Lyfrgell Canol Abertawe ac adain gelfyddydol Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae Heol Alexandra yn ardal gadwraeth benodedig, a cheir yno nifer o adeiladau a adeiladwyd ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Ceir nifer o siopau yno hefyd.

Cyfeiriadau golygu