Arwyneb fertigol sy'n gwahanu gwagle, e.e. mewn , neu sy'n gorwedd rhwng dau ddarn o dir i'w gwahanu, yw mur neu wal. Yr hen air Celtaidd oedd magwyr fel a geir heddiw yn y gair blodau'r fagwyr.

Mae daeareg ardaloedd yn wahanol, gan fod y garreg a geir yno'n lleol, ac yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhoi gwedd wahanol i waliau'r ardal. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill, roedd y grefft o godi wal sych (heb forter i'w chynnal) yn hynod bwysig gan fod waliau o'r fath yn rhoi lloches i ddefaid a ffin rhwng dau ffermwr.

Muriau o fri golygu

Chwiliwch am mur
yn Wiciadur.