Cyfrol yw mynegair yn cynnwys rhestr o'r prif eiriau ac enwau, yn nhrefn yr wyddor, a ddefnyddir mewn llyfr neu gyfres o lyfrau arbennig. Mae'n dangos lleoliad pob gair yn y gwaith dan sylw ynghyd â'i gyd-destun.[1] Mae mynegair yn fwy na mynegai syml fel a geir ar ddiwedd llyfr felly.

Yn hanesyddol, cysylltir mynegeiriau â gweithiau crefyddol. Y mynegeiriau mwyaf cyffredin ym myd y Gorllewin yw'r rhai i'r Beibl a hynny mewn traddodiad sy'n ymestyn yn ôl i'r Oesoedd Canol. Yn y byd Islamaidd, ceir sawl mynegair i'r Coran a cheir mynegeiriau mewn crefyddau eraill hefyd. Mae gweithiau llëyg y ceir mynegeiriau iddynt yn cynnwys gweithiau llenorion mawr fel Shakespeare yn Saesneg a Balzac a Zola yn Ffrangeg. Ceir mynegeion hefyd i gyfresi o lyfrau neu gofnodolion.

Un o'r mynegeiriau Cymraeg cynharaf yw'r Mynegair i'r Beibl Cyssegrlan gan William Nicholls, a gyhoeddwyd ynghyd ag argraffiad 1717 o'r Beibl.[2] Cafwyd sawl mynegair arall i'r Beibl, yn cynnwys Mynegeir Ysgrythurol Peter Williams (1773), a fu'n boblogaidd yn y 19g pan gyhoeddwyd sawl argraffiad newydd ohono. Y mynegair safonol i'r Beibl heddiw yw'r Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd (1998), sy'n cynnwys dros 1200 tudalen.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Morgan D. Jones, Termau iaith a llên (Gwasg Gomer, 1974), tud. 88.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru: Llyfryddiaeth
  3. Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd ar wefan gwales.com.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.