Mynydd Hiraethog

ucheldir a casgliad o mynyddoedd

Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.

Mynydd Hiraethog
Mathucheldir, cadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.099502°N 3.637034°W Edit this on Wikidata
Manylion
Rhiant gopaMwdwl-eithin Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20g, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Goedwig Clocaenog, sydd hefyd yn gartref i un o boblogaethau olaf o wiwerod coch yng Nghymru.

Y copa uchaf yw Mwdwl-eithin (532 medr). Mae Meol Seisiog (467 medr) yn gopa arall ble mae dwr Afon Elwy yn dechrau llifo.

Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw Llyn Alwen, Llyn Brenig a Chronfa Aled Isaf.

Mae adfeilion y porthdy hela Gwylfa Hiraethog ar ucheldir Mynydd Hiraethog, a gall eu gweld o'r ffordd A543 gerllaw.

Copaon golygu

 
Mynyddoedd Hiraethog
 
Moel Fenlli, Bryniau Clwyd.
Rhwng y Llandudno a Wrecsam
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Bryn Euryn SH832798  map  53.302°N, 3.754°W
Bryn Pydew SH811790  map  53.294°N, 3.785°W
Craig Bron-banog SJ016520  map  53.056°N, 3.469°W
Creigiau Rhiwledyn SH812823  map  53.324°N, 3.785°W
Gorsedd Brân SH969597  map  53.124°N, 3.542°W
Pen y Gogarth SH767833  map  53.332°N, 3.853°W
Marial Gwyn (Foel Goch) SH999556  map  53.088°N, 3.496°W
Moel Fodiar SH978680  map  53.199°N, 3.531°W
Moelfre Isaf SH951733  map  53.246°N, 3.573°W
Moelfre Uchaf SH898716  map  53.229°N, 3.652°W
Mwdwl-eithin, Llyn Alwen SH917540  map  53.072°N, 3.617°W
Mwdwl-eithin, Llanfihangel Glyn Myfyr SH989469  map  53.009°N, 3.508°W
Mwdwl-eithin, Llangernyw SH829682  map  53.197°N, 3.754°W
Mynydd Marian SH888774  map  53.281°N, 3.669°W
Mynydd Tryfan SH976655  map  53.176°N, 3.533°W
Tre-pys-llygod SH894687  map  53.203°N, 3.657°W

Dolenni allanol golygu