Mynydd uchaf Mongolia, yng ngorllewin eithaf y wlad, yw Mynydd Khüiten neu Khüiten orgil "Copa Khüiten" (Mongoleg: Хүйтний оргил, "Copa Oer"; hefyd, yn ddiweddar, Найрамдал оргил Nairamdal orgil "Mynydd Cyfeillgarwch"; Tsieinaeg: 友誼峰, Youyi Feng; mae amrywiadau eraill ar yr enw yn yr wyddor Ladin yn cynnwys Chujtnij/Khujtnij a Chüiten). Mae copa'r mynydd yn gorwedd 4,374 m (14,350 troedfedd) i fyny dan haen barhaol o eira. Mae'n un o bum copa'r Tavan Bogd (Y Pum Sant), gyda'r Tavan Bogd Uul; tua 2.5 km i gyfeiriad y gogledd mae ffiniau Rwsia (Siberia), Mongolia a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cwrdd. Mae'n rhan o gadwyn fawr yr Altai.

Mynydd Khüiten
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUlaankhus Edit this on Wikidata
GwladBaner Mongolia Mongolia
Uwch y môr4,374 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.1458°N 87.8192°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,342 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd Altai Edit this on Wikidata
Map