Mynydd Parys

bryn (147m) ar Ynys Môn

Mae Mynydd Parys yn fryn 147 m (482 troedfedd) o uchder, ychydig i'r de o dref Amlwch yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn. Yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, cloddfa Mynydd Parys, a'i diwydiant copr, oedd y mwyaf yn y byd.[1]

Mynydd Parys
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Mynydd Parys (Q7141415).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr147 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.388674°N 4.343211°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4427190541 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd66 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Bodafon Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Dechreuwyd cloddio am gopr ym Mynydd Parys tua 4000 o flynyddoedd yn ôl a pharhaodd hyn drwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid.[2][3]

Ail-ddarganfuwyd copr ar y mynydd yn 1764 gan fwynwr lleol ac erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd y gloddfa fwyn fwyaf yng Nghymru. Tan 1821, roedd Mynydd Parys hyd yn oed yn cynhyrchu ei arian ei hunan, a oedd yn cael ei roi i’r gweithwyr.[4]

Roedd Mynydd Parys yn tra-arglwyddiaethu ar farchnad gopr y byd yn ystod chwarter olaf y 18fed ganrif, ac roedd y copr a gloddiwyd yma'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu llongau rhyfel Prydain. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y gweithfeydd yn dechrau dirywio oherwydd trafferthion ynghylch tynnu copr o’r ddaear a chystadleuaeth ratach oddi wrth farchnadoedd yn Ewrop.

Erbyn heddiw mae’r gweithfeydd hynafol yn cael eu hastudio gan haneswyr ac archaeolegwyr ac mae golygfeydd trawiadol y mynydd yn boblogaidd ymhlith cerddwyr ac ymwelwyr.

Hanes golygu

Fideo 'drone' o Fynydd Parys a Melin wynt Cairn
 
"Ceiniog Parys" o 1787

Darganfuwyd olion mwyngloddio copr yma yn ystod Oes yr Efydd, a chredir bod y Rhufeiniaid hefyd wedi bod yn mwyngloddio yma. Yn 1764 rhoddodd y tirfeddianwyr, teulu Bayley, brydles o 21 mlynedd i Charles Roe o Macclesfield i chwilio am gopr. Ar 2 Mawrth 1768 darganfyddodd un o'r mwynwyr, Rowland Pugh, haen fawr o gopr. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni'n cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.[1]

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ac o siafftiau yn ddiweddarach. Roedd y darnau o graig a oedd yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y Copr Ladis, cyn cael eu hanfon o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu weithiau i Swydd Gaerhirfryn. Byddai plant mor ifanc ag 8 oed yn gweithio yno ar un adeg, a thynnwyd cost offer a chodi mwyn o'u cyflogau pitw gan berchnogion y mwynglawdd. Ar yr arfordir gerllaw, roedd safleoedd mwyndoddi lle cynhesid mwynau copr er mwyn cael gwared ag amhureddau fel sylffwr. Roedd mygdarthau sylffwrig gwenwynig yn llygru ardal Amlwch, a thalwyd iawndal i drigolion y dref. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref ddiwydiannol fwyaf yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr, a dechreuodd y llongau deithio i ddinas Lerpwl.[1]

Roedd y cwmni'n bathu ei arian ei hun, sef "Ceiniog Parys" ("Parys Penny") a ddefnyddid yn lleol ac a gydnabuwyd yn swyddogol fel arian cyfred cyfreithlon gan y llywodraeth.

Ar anterth y mwyngloddio, cyflogwyd dros 1,000 o bobl, ond erbyn 1810 dim ond tua 100 a gyflogwyd.[1] Dirywiodd y diwydiant copr tua chanol y 1850au, a chaeodd y gwaith copr ym Mynydd Parys ar ddechrau'r 20g. Mae rhan orllewinol y mynydd yn eiddo i Anglesey Mining PLC, sy'n bwriadu ailddechrau mwyngloddio yma.

Dechreuwyd smeltio, gyda glo fel tanwydd, oddeutu 1780. Defnyddiwyd safle ger Stad Craig y Don ar lan Afon Amlwch, gyda melin ddŵr.[5]

Enw'r mynydd golygu

Er nad yw'n fynydd yng ngwir ystyr y gair, 'mynydd' fu'r safle erioed i bobl Môn. Cafodd ei adnabod fel Mynydd Pres a Mynydd Parhaus gan rai ond yr enw gwreiddiol oedd Mynydd Trysglwyn.[6] Daw'r enw o'r geiriau trwsgl a llwyn. Ystyr y rhan gyntaf yw bras, crachlyd, garw, neu wahanglwyfus. Ystyr yr ail ran yw perthi/coed. Mae'n anodd credu heddiw, pan fo’r mynydd yn cael ei ddisgrifio fel anialdir, fod yr ardal ar un amser yn llawn o lwyni coed wedi eu gorchuddio â chen neu dyfiant. Ceir yr enw Trysglwyn yn enw dwy o ffermydd - Trysglwyn fawr a Trysglwyn isaf - sydd i’r de o’r mynydd.[7]

Newidiwyd yr enw yn nechrau’r 15g pan gyflwynwyd y tir i Robert Parys yr Ieuengaf, am ei waith fel comisiynydd neu gasglwr trethi a dirwyon yn amrywio o 2/- hyd at 20/-oddi ar 2,121 a 13 offeiriad a oedd yn cefnogi Owain Glyndŵr wedi’r gwrthryfel yn erbyn Harri IV. Roedd cefnogaeth gref i Glyn Dŵr ar yr ynys oherwydd cysylltiadau teuluol, ymysg rhesymau eraill. Dau gefnder iddo – Gwilym a Rhys ap Tudur - a gipiodd Gastell Conwy a’i ddal am ddau fis, ac o’r ynys yr ymosodwyd ar Gaernarfon. Casglodd Parys £537 7s ym Môn, oedd yn cynnwys £83 5s 8d (gwerth £38,304.50 yn 2010) yng nghwmwd Twrcelyn.[8]

Credir i Parys gael y swydd drwy ddylanwad ei fam – Siwan neu Janet, merch Sir William Stanley, Hooton, Swydd Gaer, a’i hail ŵr, sef Gwilym ap Gruffydd o’r Penrhyn, Llandegai, a oedd yn gefnogwr brwd i Harri IV.[9] Daeth y tir yn eiddo i wraig Robert ar ei farwolaeth, ac ar ei marwolaeth hi, yn eiddo i William Gruffydd Fychan – sef ei mab â’i hail ŵr, a thrwy briodas fe ddaeth y mynydd, ymhen amser, i ddwylo teulu Plas Newydd, Llanfairpwll a theulu Llys Dulas. Teulu Plas Newydd oedd unig berchnogion yr ochr ddwyreiniol a theuluoedd Phlas Newydd a Llys Dulas yn gydberchnogion ar yr hanner gorllewinol.[10]

Datblygodd gwaith copr mwyaf Prydain ar Fynydd Parys, ond erbyn heddiw, ychydig o arwyddion prysurdeb y gorffennol sydd wedi goroesi, ac mae gwedd arallfydol ar y safle. Fe’i hystyrir yn un o anialdiroedd yr ynys.[11]

Adar y Mynydd golygu

Y Gigfran: (Corvus corax.) Mae gan y gigfran sŵn crawcian dwfn. Maent yn bwydo ar bryfed, hadau a defaid marw. Mae eu niferoedd wedi cynyddu ar yr ynys yn y blynyddoedd diweddar. Gellir eu gweld o gwmpas yr injan drawst, yr hen felin a'r gweithfeydd cloddio brig.

Y Frân goesgoch: (Pyrrhocorax pyrrhocorax.) Mae gan y fran brin hon goesau a phig miniog coch. Mae hi i'w gweld yn hedfan dros fannau caregog a chreigiau. Mae'r aderyn hwn yn hoff o fwyta pryfed cop a mwydod.

Jac y Do: (Corvus monedula.) Mae jac y do yn ddu ei liw a chanddo wddf llwyd. Mae'r adar hyn yn bwyta unrhyw beth, o frogaod i wyau adar eraill. Maent hefyd yn lladron penigamp. Maent yn medru creu nyth o wlân oddi ar ddafad fyw.

Yr Hebog tramor: (Falco peregrinus). Mae'r Hebog Tramor yn cyrraedd cyflymder o dros 300 km yr awr ac yn dal a bwyta adar llai wrth hedfan.

Ehedydd: (Alauda arvensis). Aderyn sy'n enwog am ei gân yw'r Ehedydd. Yn yr awyr agored mae'n nythu, ac mae'n bwyta hadau a thrychfilod bychain.

Corhedydd y waun: (Anthus pratensis). Mae Corhedydd y Waun yn frown ac yn bwyta pryfed. Maent yn ymgasglu mewn heidiau mawr ar y tir (yn ogystal ag ar yr arfordir)

Bwncath: (Buteo buteo). Mae'r bwncath yn aderyn ysglyfaethus. Mae ganddo gân unigryw, yn debyg i gath yn mewian. Mae'n hedfan mewn cylchoedd ar gerrynt aer cynnes wrth chwilio am ei ysglyfaeth. Mae adar eraill fel gwylanod a brain yn ymosod arno.[12]

Ystlumod y Mynydd golygu

Mae amrywiaethau o ystlumod yn byw yn yr hen fwyngloddiau, gan gynnwys ystlumod Natterer, Ystlum Lleiaf cyffredin, ac ystlumod Noctule.[12]

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • John Rowlands, Copper Mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Rowlands, Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966).
  2. "How the Romans defeated the awe-inspiring Druids of Anglesey". Anglesey Hidden Gem. Cyrchwyd 2020-09-17.
  3. Brown, Debra (2014-01-29). "English Historical Fiction Authors: The Menai Massacre & the Last Outpost of the Druids". English Historical Fiction Authors. Cyrchwyd 2020-09-17.
  4. "THE PARYS COPPER MINE", Cornwall, Its Mines and Miners (Routledge): pp. 220–222, 2013-01-11, ISBN 978-0-203-04175-8, http://dx.doi.org/10.4324/9780203041758-65, adalwyd 2020-09-17
  5. Hope, B. (1994). A Curious Place. Bridge Books. tt. p.46.CS1 maint: extra text (link)
  6. Mynydd Parys. JR Williams. Gwasg Carreg Gwalch 2011.
  7. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007). Hanes ac Ystyr Enwau Lleoedd yn Mon.T.Pritchard.Amlwch 1872. Hen Enwau o Ynys Mon. Glenda Carr. Gwasg y Bwthyn 2015.
  8. Atlas Mon. Gol.: M. Richards. Cyngor Gwelad Mon 1972.
  9. Copper Mountain. J Rowlands. CHAMN 1981
  10. Mynydd Parys. O. Griffith. Y Wasg Genedlaethol Gymreig 1897.
  11. Crwydro Mon. Bobi Jones. Llyfrau'r Dryw 1957
  12. 12.0 12.1 Philip Steele, Robert Williams (2010). Y Deyrnas Gopr. Llyfrau Magma. t. 2. ISBN 9-780956-3885-1-3.

Dolenni allanol golygu