Mynydd Twr

bryn (220m) ar Ynys Môn

Mynydd Twr, pwynt uchaf Ynys Gybi, yw'r bryn uchaf ym Môn. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref Caergybi, gan godi'n syth o Fôr Iwerddon ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu oleudy, sy'n perthyn i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau, Cytiau Tŷ Mawr, wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal; cyfeiriad grid SH218829. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 0metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd Twr
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr220 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.313°N 4.6764°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2185982948 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd220 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd Twr Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Mae'r gair twr yn yr enw yn golygu 'pentwr, crug'.[1] Mae tuedd weithiau i dybio mai'r gair tŵr sydd yma, a gwelir y ffurfiau anghywir 'Mynydd Tŵr' a 'Mynydd y Tŵr' o bryd i'w gilydd.

Caer y Twr golygu

Ar ben Mynydd Twr ceir bryngaer neu bentref caerog a elwir yn Gaer y Twr. Mae'n dyddio i tua'r 2g OC ac yn amgáu tua 17 acer o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir caeau bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cherddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.[2]

Hamdden golygu

Mae Mynydd Twr yn denu nifer o ymwelwyr, yn arbennig yn yr haf. Tuag 1 filltir i'r gorllewin ceir goleudy Ynys Lawd a daw nifer o bobl i weld yr adar sy'n nythu ar hyd y clogwyni rhwng Ynys Lawd a Mynydd Tŵr.

Y copa golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 220m (722tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". 2001. Cyrchwyd 22 Chwefror 2023.
  2. Katherine Watson, North Wales yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).
  3. “Database of British and Irish hills”

Dolennau allanol golygu