Mynyddoedd Admiralty

Un o is-gadwyni'r Mynyddoedd Trawsantarctig yw Mynyddoedd Admiralty, a leolir yn Nhir Victoria yn yr Antarctig.

Mynydd Herschel ym Mynyddoedd Admiralty.

Mynydd uchaf y gadwyn yw Mynydd Herschel (3335 metr).

Mae'r mynyddoedd yn gartref i rywogaethau o gen, algae, a ffwng. Ar yr arfodir ceir sawl rhywogaeth o bengwiniaid, morloi ac adar y môr ond mae'r amgylchedd yn rhy galed i anifeiliaid yn y mynyddoedd eu hunain.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.