Mynyddoedd Trawsantarctig

Cadwyn o fynyddoedd yn yr Antarctig yw'r Mynyddoedd Trawsantarctig, sy'n ymestyn bron yn ddifwlch ar draws y cyfandir hwnnw o Benrhyn Adare yng ngogledd Tir Victoria i Dir Coats. Maent yn gwahanu Dwyrain a Gorllewin yr Antarctig and yn cynnwys sawl cadwyn a grŵp llai o fynyddoedd.

Mynyddoedd Trawsantarctig
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Cytundeb Antarctig Edit this on Wikidata
Arwynebedd584,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,528 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau85°S 175°W Edit this on Wikidata
Hyd3,500 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolCambriaidd Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig igneaidd Edit this on Wikidata
Y Mynyddoedd Trawsantarctig yng ngogledd Tir Victoria
Mynydd Herschel ym Mynyddoedd Admiralty, un o is-gadwyni y Mynyddoedd Trawsantarctig.

Mae'r gadwyn yn ymestyn am 3,500 km ar draws y cyfandir cyfan rhwng Môr Ross a Môr Weddell, sy'n esbonio ei enw. Mae'n un o'r cadwyni o fynyddoedd hiraf yn y byd. Mae ei lled yn amrywio rhwng 100–300 km. I'r dwyrain o'r mynyddoedd ceir Llen Iâ Dwyrain yr Antarctig ac i'r gorllewin ceir ardal eang sy'n cynnwys Tir Victoria, Silff Iâ Ross a Llen Iâ Gorllewin yr Antarctig.

Yn eithriad i'r drefn yn yr Antarctig, does dim rhew ar ben copaon y mynyddoedd hyn. Mewn rhannau maent yn cyrraedd uchder o dros 4,500 metr (14,764 troedfedd) uwch lefel y môr. Ger Swnt McMurdo ceir y Dyffrynnoedd Sych (The Dry Valleys), mangre arbennig yn yr Antarctig sydd heb rew ac eira oherwydd effaith y gwynt yn atal rhew rhag ffurfio a'r diffyg mewn bwrw eira. Mynydd uchaf y gadwyn yw Mynydd Kirkpatrick (4,528 m) ym Mynyddoedd Queen Alexandra.

Mae'r Mynyddoedd Trawsantarctig yn gartref i rywogaethau o gen, algae, a fwng. Ar yr arfodir ceir sawl rhywogaeth o bengwiniaid, morloi ac adar y môr ond mae'r amgylchedd yn rhy galed i anifeiliaid yn y mynyddoedd eu hunain.

Dolen allanol golygu