Gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yng ngogledd Libanus, ger y ddinas borth Tripoli, yw Nahr al-Bared (Arabeg:نهر البارد, sef Afon Oer). Mae rhyw 30 000 o Balesteiniaid dadleoledig a'u disgynyddion yn byw yn Nahr al-Bared, a enwyd ar ôl yr afon sy'n rhedeg i de'r gwersyll. Gwaharddwyd Lluoedd Arfog Libanus rhag mynd i mewn i unrhyw wersyll Palesteinaidd o dan delerau Cytundeb Cairo 1969.

Nahr al-Bared
Mathanheddiad dynol, Gwersyll ffoaduriaid, Palestinian refugee camp Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAkkar District Edit this on Wikidata
GwladBaner Libanus Libanus
Cyfesurynnau34.5131°N 35.9611°E Edit this on Wikidata
Map

Gwrthdaro Libanus 2007 golygu

Ym Mai 2007, roedd y gwersyll yn ganolbwynt gwrthdaro rhwng y Fyddin Libanaidd a'r grŵp radicalaidd Palesteinaidd Fatah al-Islam. Dioddefodd sielio trwm dan warchae. Bu ffoi'r mwyafrif o'r preswylwyr.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu