Nanga Parbat (gelwir hefyd Diamir) yw'r mynydd ail-uchaf ym Mhacistan a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith Wrdw/Hindi. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr 20g bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr Himalaya.

Nanga Parbat
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGilgit–Baltistan Edit this on Wikidata
GwladPacistan Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,126 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.2392°N 74.59°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd4,608 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHimalaya, Q12029082 Edit this on Wikidata
Map

Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid Albert F. Mummery uchder o bron 7,000 m, ond bu farw Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dîmau Almaenig, ond methu a wnaeth y cafan a bu farw dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar 3 Gorffennaf, 1953 gan fynyddwr o Awstria, Hermann Buhl. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.

Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, Toni Kinshofer, S. Löw, ac A. Mannhardt. Yn 1970 cyrhaeddodd Reinhold a Günther Messner y copa; ond bu farw Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, Lilliane Barrard o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma