Narcissus (mytholeg)

Yn chwedloniaeth Groegaidd, heliwr o Thespiae yn Boeotia a oedd yn enwog am ei brydferthwch oedd Narcissus neu Narkissos (Groeg (iaith): Νάρκισσος). Credir y gallai ei enw darddu o'r gair ναρκη (narke) yn meddwl "cwsg, diffyg teimlad." Roedd yn ŵr hynod o falch a dirmygai'r bobl a oedd yn ei garu. Sylwodd Nemesis ar hyn a denodd Narcissus at bwll dŵr lle gwelodd ei adlewyrchiad ei hun ynddo a chwympodd mewn cariad gydag ef. Ni sylweddolodd mai rhith yn unig ydoedd. Am nad oedd ef yn medru gadael prydferthwch ei adlewrchiad, bu farw Narcissus.[1]

Narcissus gan Caravaggio yn darlunio Narcissus yn syllu ar ei adlewyrchiad ei hun.

Tarddiad hynafol golygu

Mae sawl fersiwn gwahanol o'r chwedl hon wedi goroesi o ffynonellau amrywiol. Ceir y fersiwn glasurol gan Ofydd, yn ei drydydd llyfr o Metamorphoses (a gwblhawyd yn 8 AD). Dyma yw hanes Narcissus a Echo. Priodolir fersiwn cynt, a gyfansoddwyd tua 50 CC, i'r bardd Parthenius o Nicaea, a daethpwyd o hyd iddo'n ddiweddar ymysg y Oxyrhynchus papyri yn Rhydychen.[2] Yn wahanol i fersiwn Ofydd, diwedda'r chwedl hon gyda Narcissus yn cymryd ei fywyd ei hun. Mae fersiwn Conon, o'r un cyfnod ag Ofydd, hefyd yn gorffen y chwedl gyda hunanladdiad (Narrations, 24). Canrif yn ddiweddarach, cofnododd yr ysgrifennwr teithiol Pausanias fersiwn wahanol o'r chwedl, lle mae Narcissus yn cwympo mewn cariad gyda'i chwaer efaill yn hytrach na gyda ef ei hun (Guide to Greece, 9.31.7).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Thanasis.com Archifwyd 2013-05-15 yn y Peiriant Wayback., Nemesis. Adalwyd 15 Mawrth, 2011
  2. David Keys, "Ancient manuscript sheds new light on an enduring myth", BBC History Magazine, Vol. 5 No. 5 (Mai 2004), p. 9 (adalwyd 30 Ebrill, 2010);
  3. Mario Jacoby, Individuation and Narcissism (1985; 2006).

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: