Nasareth (Galilea)

Dinas fwyaf Rhanbarth y Gogledd, Israel yw Nasareth. Adwaenir hi fel "prifddinas Arabaidd Israel"; mae mwyafrif helaeth o'r boblogaeth yn Arabiaid, gyda'r mwyafrif ohonynt yn Fwslemiaid (69%) a'r lleill yn Gristnogion (30.9%).[1][2]. Mae ganddi boblogaeth o 81, 410 (2011).[3]

Nasareth
Mathdinas, holy city of Christianity Edit this on Wikidata
Poblogaeth83,400 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Fflorens, Leverkusen, Neubrandenburg, Den Haag, Klagenfurt, Częstochowa, Loreto, Alba Iulia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJezreel Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd14.123 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr290 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.702103°N 35.29785°E Edit this on Wikidata
Map
Nasareth

Geirdarddiad golygu

Ni chrybwyllir Nasareth mewn testunau cyn-Gristnogol, ond ymddegnys yr enw'n fynych yn y Testament Newydd mewn sawl ffurf. Nid oes unfrydedd dros darddiad yr henw.[4] Un dybiaeth yw bod yr enw'n tarddu o un o'r geiriau Hebraeg am "gangen", sef ne·ṣer, נֵ֫צֶר, sy'n cyfeirio at y geiriau meseianaidd, proffwydol a geir yn Llyfr Eseia 11:1. Posibilrwydd arall yw'r ferf na·ṣar, נָצַר, "gwylio, cadw gwyliadwraeth, gwyliedydd, cadw,"[5] a gellir ei ddenhongli fel "y tŵr gwarchod" neu "man y gwyliedydd" a all gyfeirio fod yr hen dref ar ben bryncyn.[6] Ceir cyfeiriadau negyddol at y dref yn Efengyl Ioan, sy'n awgrymu nad oedd yr Iddewon cynnal yn cysylltu enw'r dref â phroffwydoliaeth.[7]

Enw Arabeg, an-Nāṣira golygu

Yr enw Arabeg am Nasareth yw an-Nāṣira, a'r enw am Iesu yw (Arabeg: يَسُوع‎, Yasū` neu Arabeg: عِيسَى‎, `Īsā) ond fe'i gelwir hefyd yn an-Nāṣirī, sy'n adlewyrchu'r traddodiad Arabeg o roi nisba i bobl, sef enw sy'n disgrifio o ble daw'r person; mae hyn yn debyg i'r traddodiad Cymraeg: Ceiriog, Elli, Arfon ayb. Yn y Qur'an, caiff Cristnogion eu galw'n naṣārā, sef "dilynwyr yr an-Nāṣirī," neu "dilynwyr yr Iesu."[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.cbs.gov.il/publications/local_authorities2005/pdf/207_7300.pdf. Adalwyd 16 Tachwedd 2012
  2. Laurie King-Irani (Spring 1996). "Review of "Beyond the Basilica: Christians and Muslims in Nazareth"". Journal of Palestine Studies 25 (3): 103–105. doi:10.1525/jps.1996.25.3.00p0131i. JSTOR 2538265
  3. http://www.cbs.gov.il/population/new_2010/table3.pdf. Adalwyd 31 Hydref 2010
  4. Carruth, Shawn; Robinson, James McConkey; Heil, Christoph (1996). Q 4:1-13,16: the temptations of Jesus : Nazara. Peeters Publishers. p. 415. ISBN 90-6831-880-2.
  5. "...if the word Nazareth is be derived from Hebrew at all, it must come from this root [i.e. נָצַר, naṣar, to watch]" (Merrill, Selah, (1881) Galilee in the Time of Christ, tud. 116.
    Francis Brown, S. R. Driver, Charles A. Briggs, The Brown-Driver-Briggs Hebrew and English Lexicon (1906/2003), tud. 665.
  6. R.H.Mounce, 'Nazareth,' in Geoffrey W. Bromiley (gol.) The International Standard Bible Encyclopedia, Cyfrol 3; Eerdmans Publishing 1986, pp.500-501.
  7. Bauckham, Jude, Jude, Relatives of Jesus in the Early Church, tud. 64-65. Gweler Ioan 1:46 ac Ioan 7:41-42
  8. Antoun, Richard T.; Quataert, Donald (1991). Richard T. Antoun (gol.). Syria: society, culture, and polity. SUNY Press. ISBN 9780791407134.CS1 maint: uses editors parameter (link)