Term mantell a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth lydan o fudiadau crefyddol modern sydd wedi eu dylanwadu'n rhannol gan gredoau paganaidd cyn-Gristionogol Ewropeaidd yw neo-baganiaeth.[1][2] Mae mudiadau crefyddol neo-baganaidd yn amrywiol iawn, a gellid cynnwys credoau amldduwiol, animistaidd, a phantheistaidd. Mae llawer o neo-baganiaid yn ymarfer ysbrydolrwydd sy'n hollol fodern, tra bod eraill yn ceisio ail-lunio neu adfywio crefyddau brodorol, ethnig gyda ffynonellau hanesyddol neu ffynonellau llên gwerin.[3]

Mae'n ddatblygiad o fewn gwledydd datblygedig, megis yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, ond hefyd gwledydd eraill megis Ewrop Gyfandirol (Yr Almaen, Llychlyn, Ewrop Slafaidd, Ewrop Ladinaidd ac eraill). Wica yw'r grefydd fwyaf o fewn neo-baganiaeth, ond mae crefyddau eraill sydd â chymaint o ganlynwyr yn cynnwys neo-dderwyddiaeth, Ásatrú, a neo-baganiaeth Slafaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lewis, James R. The Oxford Handbook of New Religious Movements (Gwasg Brifysgol Rydychen, 2004). Tudalen 13. ISBN 0195149866.
  2. Hanegraaff, Wouter J. New Age Religion and Western Culture: Esotericism in the Mirror of Secular Thought (Cyhoeddwyr Brill Academic, 1996). Tudalen 84. ISBN 9004106960.
  3. Adler, Margot (2006). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess Worshippers and Other Pagans in America. Efrog Newydd, NY: Penguin Books, tud. 3–4 (argraffiad 1986). ISBN 0143038192
  Eginyn erthygl sydd uchod ynglŷn â Neo-baganiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato