Yng ngwledydd Prydain, adeilad mewn pentref yw neuadd bentref (hefyd: neuadd [y] pentref) sy'n cynnwys o leiaf un ystafell fawr ac sy'n perthyn fel rheol i'r gymuned leol ac yn cael ei rhedeg fel canolfan ar gyfer y gymuned honno. Fel rheol, defnyddir y neuadd at sawl pwrpas, yn cynnwys cynnal digwyddiadau cyhoeddus a phreifat, fel lle cwrdd i'r Cyngor Cymuned lleol (neu'r cyngor plwyf yn Lloegr), ac ar gyfer cyrddau clybiau chwaraeon, cael dawnsiau, llwyfannu dramâu gan y gymdeithas ddrama leol, gweithgareddau clybiau ieuenctid, ffeiriau ac ati.

neuadd bentref
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAllmänna samlingslokaler Edit this on Wikidata
Neuadd bentref Ganllwyd, Gwynedd.

Mae gan rai neuaddau pentref yng ngwledydd Prydain statws sefydliadau elusennol.[1]

Yn yr Unol Daleithiau mae neuaddau pentref yn gwasanaethu'n bennaf fel canolfannau llywodraeth leol.

Cyfeiriadau golygu