Newid hinsawdd

effaith negyddol dyn ar yr amgylchedd

Mae cynhesu byd-eang yn gynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a'r cynnydd pellach posibl yn y ganrif nesaf. Mae'r cynhesu hwn yn effeithio patrymau tywydd y byd - gelwir hyn yn newid hinsawdd neu'n newid yn yr hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3 °C y ddegawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y nwyon tŷ gwydr, fel y'u gelwir, yn yr atmosffer. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach. Y gydran bwysicaf oll o'r nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2) oherwydd y maint a gynhyrchir, er fod gan nwyon eraill megis methan (CH4) fwy o effaith fesul moleciwl. Y ffynonellau allyriant CO2 mwyaf yw gorsafoedd pŵer, cerbydau, diwydiant a defnydd ynni'r cartref. Mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu tuag 80% at allyriant CO2 dynol yn fyd-eang.

Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen osôn
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori

Theori newid hinsawdd golygu

 
Cofnodion Tymheredd Ers 1880. Mae'r linell yn dangos cyfartaledd gofodol y tymheredd ar draws wyneb y ddaear, minws y cyfartaledd amserol dros y cyfnod 1951–1980 o'r cyfartaledd hwn.

Ers y chwyldro diwydiannol rydym wedi bod yn allyrru symiau enfawr o garbon deuocsid wrth i ni ddefnyddio mwy a mwy o egni. Mae carbon deuocsid, sef un o'r prif nwyon tŷ gwydr yn cronni yn yr atmosffer ac yn ynysu ein planed, gan atal rhag i wres isgoch ddianc. Ar y graff hinsawdd cyferbyn rydych yn gallu gweld bod y tymheredd yn cynyddu ers y chwyldro diwydiannol yn y 1800au.

Tystiolaeth Dros Newid Hinsawdd golygu

Mae meteorolegwyr wedi bod yn astudio a chofnodi data am yr hinsawdd yn fanwl dros y ddwy ganrif ddiwethaf, yn Ewrop, Gogledd America, ac ychydig o wledydd trofannol. Mae'r dystiolaeth ddiweddar yma'n gallu bod yn ddefnyddiol, ond mae'n rhaid mynd ymhellach yn ôl mewn amser i weld y llun cyflawn. I wneud hyn mae'n rhaid edrych ar wahanol dystiolaeth.

Tystiolaeth Rewlifol golygu

Mae rhewlifau yn encilio fel ymateb i newidiadau hinsoddol. Mae cofnodion manwl ar gael ers 1644 o dri rhewlif yn yr alpau yn Ffrainc, (Mer de Glace, d'Argentierre, a Des Bossons). Mae mwyafrif y rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd yn encilio ar hyn o bryd, rhai ohonynt yn gyflym iawn.

Creiddiau Iâ golygu

Mae'r rhain yn mynd yn ôl ymhellach, yn achos Yr Ynys Las tua 100,000 o flynyddoedd cyn heddiw. Wrth archwilio samplau o iâ mae modd casglu gwybodaeth am yr amgylchiadau pan ffurfiwyd yr iâ. Mae'r swigod aer sydd wedi ei ddal yn yr iâ yn cario gwybodaeth am dymheredd a gwasgedd yr amgylchiadau. Gellir hefyd cymharu isotopau o fewn yr iâ lle mae'r mas atomig yn newid.

Tystiolaeth Ddaearegol golygu

Mewn rhannau sych o Affrica mae yna batrymau o ddraenio a dyddodi afonol sy'n amhosib eu hegluro yn yr hinsawdd bresennol. Maent yn adlewyrchu cyfnod pan oedd Affrica yn derbyn llawer mwy o law na heddiw. Gall daearyddwyr defnyddio tystiolaeth fel hyn i ragdybio amodau'r gorffennol. Mae daearyddwyr yn defnyddio radio carbon (C14) er mwyn dyddio oedran ffosiliau ac organebau marw. Wrth iddynt bydru mae daearyddwyr a gwyddonwyr yn gallu astudio samplau er mwyn ei oedrannau.

Tystiolaeth Fiolegol golygu

Mae'r astudiaeth o biomau yn dangos cydberthyniad agos gyda'r tymheredd, golau haul a dyodiad. Mae nifer o ddulliau wedi cael ei ddatblygu sy'n cysylltu planhigion gyda hinsoddau'r gorffennol. Gelwir y math yma o astudiaeth yn Dendrocronoleg.

Ymchwil Paill golygu

Mae'r hinsawdd yn penderfynu pa fath o blanhigion sy'n tyfu mewn safle. Yn ystod eu hoes mae planhigion yn rhyddhau paill i'r ardal o'i amgylch. Weithiau mae gwaddodion o'r paill yn cael ei storio yn y ddaear, ac wrth astudio'r samplau yma gellir darganfod gwybodaeth am yr amgylchiadau.

Tystiolaeth Hanesyddol ac Archeolegol golygu

Mae'r rhain yn cynnwys llenyddiaeth, lluniau a phaentiadau sy'n dangos tystiolaeth o'r amgylchiadau.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato