News of the World

Papur tabloid oedd News of the World a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain rhwng 1843 a'r 10ed Gorffennaf 2011. Daeth i ben oherwydd y sgandal hacio ffonau. Roedd yn chwaer-bapur i'r Sun a'i berchennog oedd News Group Newspapers of News International sydd ym mherchnogaeth News Corporation Rupert Murdoch. Wythnosolyn ydoedd a gyhoeddwyd bob dydd Sul.

News of the World
Math
papur newydd
Sefydlwyd1 Hydref 1843
Daeth i ben10 Gorffennaf 2011
PencadlysWapping
Gwefanhttp://www.newsoftheworld.co.uk/ Edit this on Wikidata
Y rhifyn cyntaf; 1 Hydref 1843.

Arbenigodd mewn sgŵps gwleidyddol a sgandalau rhyw drwy waith ditectif y gohebyddion. Oherwydd hyn, cafodd y llysenw News of the Screws.

Ymddiswyddodd golygydd y papur Andy Coulson ar 26 Ionawr 2007 oherwydd y sgandal hacio ffonau.[1] Cymerodd Colin Myler, cyn-olygydd y Sunday Mirror a oedd hefyd wedi gweithio ar y New York Post yr awennau. Mae cyn-olygyddion y papur yn cynnwys Piers Morgan a Rebekah Wade, a ddisodlodd Phil Hall yn 2000. Ar 7 Gorffennaf 2011, cyhoeddodd News International y byddai'r News Of The World yn gorffen yn barhaol yr wythnos honno, ac mai dydd Sul 10 Gorffennaf 2011 fyddai'r rhifyn diwethaf. Penderfynwyd diweddu'r papur fel ymateb i'r sgandal hacio ffonau, ar ôl i honiadau fod ditectif preifat wedi hacio ffôn yr arddegwraig Seisnig Milly Dowler a gafodd ei llofruddio. Ymysg yr honiadau, dywedwyd i'r ditectif preifat ddileu negeseuon o flwch llais (voicemail) Dowler, gan achosi ing i'w rhieni. Arweiniodd yr honiadau at ymateb chwyrn wrth y cyhoedd a chyhoeddodd nifer o gwmnïau na fyddent yn hysbysebu yn y papur o ganlyniad.[2] Gwaethygodd y sgandal pan gyhoeddwyd honiadau fod y papur wedi hacio ffonau teuluoedd milwyr a laddwyd ar faes y gâd. O ganlyniad i'r sgandal, cyhoeddodd James Murdoch, Cadeirydd a Phrif Weithredwr News Corporation, Ewrop ac Asia, ar y 7 Gorffennaf 2011 mai rhifyn 10 Gorffennaf 2011 fyddai'r olaf.[3][4]

Ar 8 Gorffennaf 2011, arestiodd yr heddlu cyn-olygydd y papur, Andy Coulson, fel rhan o'u hymchwiliadau i'r honiadau o hacio ffonau a llygru. Ar yr un diwrnod, arestiwyd cyn-olygydd brenhinol y NoW, Clive Goodman (a garcharwyd am hacio ffonau yn 2007), am honiadau tebyg o lygredigaeth.

Cyfeiriadau golygu