Prinder bwyd ar raddfa eang yw newyn. Gall arwain at bobl yn llwgu i farwolaeth, neu yn cael eu gwanhau i'r fath raddau nes i glefydau araill eu lladd.

Gall newyn gael ei achosi gan ffactorau sy'n creu prinder bwyd, megis sychder, methiant cynhaeaf am wahanol resymau neu afiechydon heintus sy'n golygu nad yw'r tir yn cael ei drin. Gall hefyd gael ei achosi gan weithredoedd dynol, megis rhyfel.

Amcangyfrifir i tua 70 miliwn o bobl farw oherwydd newyn yn ystod yr 20g. Ymhlith y rhai mwyaf roedd newyn 1958–61 yn Tsieina, a laddodd tua 30 miliwn, newyn Bengal yn 1942–1945, newyn yn yr Wcrain yn 1932–33, newyn Biafra yn y 1960au a newyn Ethiopia yn 1983–85.

Gweler hefyd golygu