Digrifwr ac actor Americanaidd oedd Julius "Nipsey" Russell (15 Medi 19182 Hydref 2005).[nodyn 1] Roedd yn enwog am ei gerddi byrion, ag enillodd yr enw "Bardd Llawryfog y Teledu" iddo.

Nipsey Russell
Ganwyd15 Medi 1918 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylAtlanta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, dawnsiwr, digrifwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPat Hingle, Dean Martin, Orson Welles, Redd Foxx, Michael Gough, Foster Brooks, Milton Berle, James Brown Edit this on Wikidata
Gwobr/auNAACP Image Award for Outstanding Supporting Actor in a Motion Picture Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Julius Russell yn Atlanta, Georgia, a chafodd ei alw'n Nipsey gan ei fam. Symudodd i fyw gyda'i fodryb yn Cincinnati pan oedd yn ei arddegau er mwyn ei alluogi i fynychu Prifysgol Cincinnati heb dalu ffïoedd dysgu. Ymunodd â'r fyddin am bedair mlynedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan gyrraedd rheng capten. Dychwelodd i brifysgol ac enillodd gradd mewn Saesneg ym 1946.[1]

Gyrfa golygu

Comedi ar ei sefyll golygu

Perfformiodd Russell gomedi ar ei sefyll mewn clybiau du yng ngogledd yr Unol Daleithiau, gan gynnwys yr Apollo yn Harlem a'r gwesty Concord yn y Catskills. O ganlyniad i'w ymddangosiadau yn y Baby Grand yn Harlem cafodd ei wahodd i'r Tonight Show ym 1959, ac yna ar nifer o sioeau radio a theledu gan gynnwys rhaglen radio Arthur Godfrey.[1] Roedd ei act yn defnyddio sylwebaeth gymdeithasol a gwirebau difyr ac yn chwarae ar eiriau, gan osgoi'r afledneisrwydd oedd yn boblogaidd gan ddigrifwyr eraill ar y pryd. Yn ystod cyfnod y Mudiad Hawliau Sifil defnyddiodd Russell mwy o ddeunydd ar bwnc hiliaeth.[2] Perfformiodd yn y Baby Grand am fwy na saith mlynedd a chynhyrchodd albymau oedd yn gasgliadau o'i actiau. Yn ystod y 1960au ymddangosodd yn aml ar The Jackie Gleason Show a Rowan & Martin's Laugh-In.[3]

Sioeau gêm golygu

Ymunodd Russell â'r sioe gêm Missing Links ar sianel ABC ym 1964, ac yno ddatblygodd ei gerddi. Ar ddiwedd un o'r sioeau, trodd Ed McMahon iddo gan ofyn os oedd ganddo gerdd, a chyfansoddodd bennill doniol yn ddifyfyr. Yn ystod ei yrfa, cyfansoddodd mwy na 600 o gerddi byrion a ddysgodd ar ei gof.[3] Ym 1965 daeth yn gyd-gyflwynydd y Les Crane Show, ac am weddill y 1960au, y 1970au a'r 1980au roedd yn wyneb cyfarwydd ar sioeau gemau a gemau panel Americanaidd gan gynnwys Hollywood Squares, The $50,000 Pyramid, To Tell the Truth, Match Game 73, Masquerade Party, a What's My Line?.[1][3] Cyflwynodd hefyd y sioe gêm Your Number's Up ym 1985 ac ymddangosodd yn aml ar The Dean Martin Show, The Dean Martin Comedy World a The Dean Martin Celebrity Roasts gan ddefnyddio'i gerddi i wneud hwyl am bennau enwogion eraill.[1][3]

Actio ar deledu a ffilmiau golygu

Chwaraeodd heddwas yn y comedi sefyllfa teledu Car 54, Where Are You? ym 1961–2[2] ac yn ystod y 1970au cyd-serennodd yn y comedi sefyllfa Barefoot in the Park ar sianel ABC.[1] Ymddangosodd hefyd yn yr operâu sebon As the World Turns a Search for Tomorrow.[3] Derbynodd gymeradwyaeth am ei berfformiad o'r Dyn Tun yn y ffilm The Wiz (1978),[1] rhan oedd yn galw arno i ddawnsio a chanu yn ogystal ag actio a pheri chwerthin.[3] Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Dream One (1984), Wildcats (1986), Posse (1993), a'r addasiad ffilm o Car 54, Where Are You? (1994).[3]

Bywyd personol golygu

Roedd Russell yn hoff o astudio llenyddiaeth glasurol ac ieithoedd, ac yn ôl ei reolwr Joseph Rapp roedd yn ddyn tawel gyda chof da.[3] Ni wnaeth briodi na chael plant.

Perfformiodd Russell ar lwyfannau Atlantic City a Las Vegas hyd ddechrau'r 1990au, ac ymddangosodd ar deledu hyd ddechrau'r 2000au[1] ar sioeau megis Late Night with Conan O'Brien a'r Chris Rock Show, a chafodd sioe gomedi arbennig ar Comedy Central.[3] Bu'n byw ym Manhattan yn Ninas Efrog Newydd am nifer o flynyddoedd a bu farw yno o ganser yn 2005.[1]

Nodiadau golygu

  1. Yn ôl rhai ffynonellau, 13 Hydref 1924 oedd dyddiad geni Nipsey Russell. Ar ôl ei farwolaeth, dywedodd ei reolwr Joseph Rapp nad oedd tystysgrif geni ganddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Watkins, Mel (4 Hydref 2005). Nipsey Russell, a Comic With a Gift for Verse, Dies at 80. The New York Times. Adalwyd ar 27 Mai 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Nipsey Russell. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Mai 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 (Saesneg) Holley, Joe (4 Hydref 2005). Rhyming Funnyman Nipsey Russell Dies. The Washington Post. Adalwyd ar 27 Mai 2013.

Dolen allanol golygu