Cantores Lydaweg yw Nolwenn Leroy (ganwyd 28 Medi 1982 ym Mhen-ar-Bed). Mae'n adnabyddus am ei dau sengl rhif un, Cassé a Nolwenn Ohwo!.

Nolwenn Leroy
FfugenwNolwenn Leroy Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Medi 1982 Edit this on Wikidata
Lokournan Edit this on Wikidata
Label recordioMercury Records, Decca Records, Universal Studios Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Q16507816 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, canwr-gyfansoddwr, pianydd, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd, folk-pop Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAlan Stivell Edit this on Wikidata
TadJean-Luc Le Magueresse Edit this on Wikidata
PartnerArnaud Clément Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://nolwennleroy.com/ Edit this on Wikidata
Nolwenn yn 2010

Bywgraffiad golygu

Yn ystod ei phlentyndod treuliodd ei theulu hamser yn byw ym Mharis, Lille a Gwengamp. Ar ôl i'w rhieni ysgaru ym 1992 ymgartrefodd Nolwenn gyda'i mam a'i chwair yn Saint-Yorre.

Astudiodd yn College des Celestins yn Vichy. Pan oedd hi'n unarddeg mlwydd oed, sylwodd ei hathro cerddoriaeth ar ei doniau cerddorol ac fe anogodd iddi ddysgu'r ffidil. Ym mis Gorffennaf 1998 fe enillodd ysgoloriaeth i deithio i Cincinnati yn Ohio fel myfyrwraig gyfnewid. Wedi dysgu siarad Saesneg yn rhugl, dychwelodd i Ffrainc ble fynychodd ddosbarthiadau canu clasurol. Yn 2002 daeth Nolwenn yn adnabyddus wedi iddi ennill ail-gyfres y rhaglen deledu Ffrengig Star Academy.

Mae wedi rhyddhau pedwar albwm gan gynnwys dau albwm rhif un; Nolwenn (2003) a Bretonne (2010). Albwm o ganeuon Celtaidd yw Bretonne sy’n cynnwys pedair cân yn Llydaweg a dreuliodd 7 wythnos ar brig y siartiau Ffrengig.

Disgograffiaeth golygu

Albymau golygu

Blwyddyn Teitl Safle ar y siart
FR BEL SWI
2003 Nolwenn 1 1 2
2005 Histoires Naturelles 3 7 44
2009 Le Cheshire Cat et Moi 26 32 -
2010 Bretonne 1 1 20

Senglau golygu

Blwyddyn Teitl Safle ar y siart Albwm
FR BEL SWI
2003 "Cassé" 1 1 4 Nolwenn
"Une Femme Cachée" 40 23 78
"Suivre Une Etoile" 12 24 44
2004 "Inévitablement" 31 26 -
2006 "Nolwenn Ohwo!" 1 3 29 Histoires Naturelles
"Histoire Naturelle" 30 39 -
"Mon Ange" 14* 6* -
2007 "J'aimais Tant L'Aimer" - - -
"Reste Encore" - - -
2009 "Faut-il, Faut-il Pas ?" - 6* - Le Cheshire Cat et Moi
2010 "Suite Sudarmoricaine" - 26* - Bretonne
"La Jument de Michao" 34* 13 -
"Tri Martolod" 48* 29 -
"Brest" - - -

Dolenni allanol golygu

Gwefan swyddogol

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: