Nupe (iaith)

iaith

Iaith a siaredir yng ngorllewin canolbarth Nigeria, gan mwyaf yn nhalaith Niger State yw Nupe (Nufawa, Nupeci, Nupecidji, Nupenchi, Nupencizi). Mae'r un enw yn cyfeirio at y bobl sy'n siarad yr iaith. Mae'n perthyn i'r teulu Ieithoedd Niger-Congo (cangen Volta-Congo, is-gangen Benue-Congo). Mae tua 800,000 o bobl yn medru'r iaith (1990, Ethnologue).