Duwies y nos ym mytholeg Roeg, merch Chaos (Anhrefn) yw Nyx (Groeg Νύξ, Lladin Nox). Mae'n debyg ei bod yn hŷn o lawer na'r rhan fwyaf o'r duwiau yn y pantheon Groeg clasurol.

Nyx
Enghraifft o'r canlynolduwdod primordaidd Groeg, duwies Edit this on Wikidata
Enw brodorolΝύξ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priododd ei brawd Erebus a ffrwyth yr uniad hwnnw oedd Dydd a Goleuni. Hi hefyd oedd mam y Parcae, yr Hesperides, Breuddwydion, Anghydfod, Marwolaeth, Momus a duwiau a duwiesau eraill. Mae rhai o'r beirdd clasurol yn ei galw "Mam Popeth", sef dyn a'r duwiau gyda'i gilydd. Roedd cerflun ohoni yn nheml enwog y dduwies Artemis (Diana) yn Ephesus, yn Asia Leiaf. Arferid offrymu dafad ddu iddi am ei bod yn fam i'r Eumenides (y Furiae). Offrymid ceiliog iddi hefyd, am fod yr aderyn hwnnw'n cyhoeddi dyfodiad y wawr.

Mae hi'n cael ei phortreadu yn eistedd ar gerbyd, yn gwisgo gorchudd yn frith o sêr. Roedd y Cytserau yn ei rhagflaenu ar ei thaith. Weithiau mae hi'n cael ei dangos yn dwyn dau blentyn yn ei breichiau, un ohonynt yn ddu ac yn cynrychioli'r nos, neu farwolaeth, a'r llall yn wyn ac yn cynrychioli cwsg neu oleuni'r dydd.

La Nuit, gan William-Adolphe Bouguereau (1883)

Ffynonellau golygu

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (gyda nodiadau ychwanegol gan F.R. Sowerby) (Llundain, d.d.).
  • Pears Encyclopaedia of Myths and Legends // Ancient Greece and Rome (London, 1976).
 
Darlun canoloesol o'r dduwies Nyx mewn gwisg Roegaidd gyda'r proffwyd Eseia (Sallter Paris)

Gweler hefyd golygu