Odesa

dinas yn Wcráin
(Ailgyfeiriad o Odessa)

Odesa (Wcreineg: Одеса) yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yn Wcráin. Mae ganddi boblogaeth o rhwng 1,029,000 (cyfrifiad 2001) a 1,080,000 (amcangyfrif 2008). Mae'r ddinas yn borthladd pwysig, y mwyaf yn y wlad, sy'n gorwedd ar lan ogleddol y Môr Du.

Odesa
Mathdinas yn Wcráin Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOdessos Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,010,537 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHennadiy Trukhanov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, UTC+2, EET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sirbwrdeistref Odesa Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd236.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr40 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Odesa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5°N 30.7°E Edit this on Wikidata
Cod post65000–65480 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Odesa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHennadiy Trukhanov Edit this on Wikidata
Map
Theatr Odesa

O 1819 hyd 1858 roedd Odesa yn borthladd rhydd (porto franco). Yn y cyfnod Sofietaidd Odesa oedd porthladd pwysicaf yr Undeb Sofietaidd ac roedd hefyd yn wersyll llynges fawr. Yn y 19g, hon oedd y bedwaredd ddinas yn y Rwsia Imperialaidd, ar ôl Moscfa, Saint Petersburg, a Warsaw. Heddiw ceir dau borthladd yn ninas Odesa: Odesa ei hun a Yuzhny (sydd hefyd yn borthladd olew), sy'n gorwedd ym maesdrefi'r ddinas. Ceir porthladd pwysig arall yn oblast Odesa, sef Illichivs'k (Ilyichyovsk), i'r de-orllewin o Odesa. Gyda sawl rheilffordd yn rhedeg o'r ddinas hefyd, mae'n un o greosffyrdd cludiant pwysicaf y wlad. Ceir gweithfeydd prosesu olew a chemegion yn Odesa hefyd, a gysylltir â rhwydweithiau Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd trwy gyfres o bibellau strategol.

Dechreuodd y ddinas fel gwladfa Groegaidd. Mae ei hanes yn ddrych i hanes hir a chymhleth Wcráin a Rwsia.

Lleolir dinas Odesa ar res o fryniau sy'n codi ger harbwr naturiol bychan, tua 31 km (19 milltir) i'r gogledd o aber Afon Dniester a thua 443 km (275 milltir) i'r de o'r brifddinas, Kyiv. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol a sych, gyda thymheredd ar gyfartaledd yn Ionawr o -2 °C (29 °F), a 22 °C (72 °F) yng Ngorffennaf. Ceir tua 350 mm (14 mod.) o law mewn blwyddyn.

Y brif iaith ar y stryd yw Rwseg, gyda'r Wcreineg yn llai cyffredin er ei bod yn iaith swyddol y wlad. Ceir cymysgfa o bobl o sawl cenedligrwydd a chefndir ethnig yno, yn cynnwys Wcreiniaid, Rwsiaid, Groegiaid, Iddewon, Moldofiaid, Bwlgariaid, Armeniaid, Georgiaid, Almaenwyr ac eraill.

Gefeilldrefi golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.