Offeiriad a llenor yn yr iaith Ladin oedd Odo o Cheriton (m. 1247). Yn Sais o dras Normanaidd, mae Odo'n adnabyddus i edfrydwyr rhyddiaith Cymraeg Canol fel awdur Chwedlau Odo.

Odo o Cheriton
Ganwyd1180 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1246 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwedleuwr, ysgrifennwr, ffrier, pregethwr Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Bu cryn ansicrwydd ynglŷn ag Odo a'i fywyd. Ymwelodd â Paris, ac yno yn ôl pob tebyg yr enillodd ei radd fel Meistr y Celfyddydau. Ceir traddodiad ei fod yn fynach Sistersiaidd neu'n perthyn i'r Præmonstratensiaid. Cyfeirir at un "Meistr Odo o Cheriton" yng nghofnodion Caint a Llundain, rhwng 1211 a 1247, yn fab i William o Cheriton, arglwydd maenor Delce yn Rochester. Yn 1211-12 daeth Odo i feddiant eglwys Cheriton, ger Folkestone; ceir cofnod o'i dad yn talu hebog i'r brenin John o Loegr i brynu'r bywoliaeth. Yn 1233 etifedodd Odo ystadau ei dad yn Delce, Cheriton, a mannau eraill. Ar siarter o 1235-6 (British Museum, Harl. Ch. 49 B 45), ynglŷn â hawl ar siop yn Llundain, ceir ei sêl, sy'n dangos mynach yn eistedd wrth ei fwrdd, gyda seren uwch ei ben (Sant Odo o Cluny efallai). Bu farw yn 1247.

Gwaith llenyddol golygu

Ysgrifennodd Odo sawl gwaith Lladin ar bynciau eglwysig a diwinyddol, yn cynnwys pregethau. Ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei Parabole Sancti, sy'n perthyn i draddodiad y fabliaux Ffrengig a gwaith Esop. Cyfieithwyd y gwaith i'r Gymraeg tua diwedd y 14g (neu gynt) dan y teitl Chwedlau Odo. Ceir cyfieithiadau o'r un cyfnod i'r Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg yn ogystal.

Ffynhonnell golygu

  • Ifor Williams (gol.), Chwedlau Odo (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926)