Roedd Ogam neu Ogham yn sgript a ddefnyddid o'r 4g hyd y 10g, i ysgrifennu Gwyddeleg yn bennaf.

Ogam
Mathgwyddor, sgript naturiol, unicase alphabet Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 4 g (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Y llythrennau Ogham
lleoliad cerrig ogham ac ysgrifen eraill arnynt yng Nghymru.
Llythrennau Ogam o Lyfr Ballymote (1390)

Mae'r arysgrifau Ogam "clasurol" i'w cael yn Iwerddon, Cymru, Yr Alban ac Ynys Manaw, gydag ychydig yn Lloegr, a'r mwyafrif yn dyddio o'r bumed a'r chweched ganrif. Maent wedi eu hysgrifennu mewn Hen Wyddeleg, ond gan mai enwau personau yn unig yw llawer o'r arysgrifau, nid oes modd cael llawer o wybodaeth ieithyddol ohonynt.

Credir fod y sgript wedi ei dyfeisio tua diwedd y 4g neu ddechrau'r bumed, efallai gan Gristionogion cynnar yn ne Iwerddon, lle mae arysgrifau ogam yn arbennig o niferus yn y siroedd arfordirol o Kerry hyd Waterford. Awgrym arall yw'i fod y sgript a ddyfeisiwyd gan Wyddelod yn byw yng Nghymru yn y 4g, oedd wedi dod i gysylltiad â'r wyddor Ladin. Yn yr Alban mae nifer o arysgrifau Ogham na wyddir beth yw eu hiaith; mae'n bosibl bod nifer ohonynt yn enghreifftiau o Bicteg, iaith y Pictiaid, ac yn ddiweddarach na'r enghreifftiau Cymreig a Gwyddelig. Yn ôl chwedlau Iwerddon, dyfeisiwyd Ogam, a'r iaith Wyddeleg, yn fuan ar ôl cwymp Tŵr Babel.

Ffurfir y llythrennau gan linellau, un ai ar ymyl carreg neu ar draws llinell syth wedi ei thorri yn y garreg. Darllenir o'r ochr chwith ar waelod y garreg. Mae'r wyddor yn cynnwys ugain llythyren (feda), wedi eu trefnu yn bedair cyfres (aicmí).

Yng Nghymru mae'r mwyafrif mawr o'r arysgrifau Ogam yn y de-orllewin, lle'r oedd poblogaeth Wyddelig sylweddol yn y cyfnod yma. Maent yn llawer prinnach tu allan i'r ardal yma, ond ceir grŵp ohonynt yn nhiriogaeth hen deyrnas Brycheiniog ac ambell un yn y gogledd, er enghraifft un gerllaw Bryncir yng Ngwynedd, sy'n ddwyieithog, Ogam a Lladin.

Llythrennau golygu

Dyma rai o enwau'r llythrennau Ogam a'u hystyron:

  • Beith, Hen Wyddeleg Beithe : "bedwen".
  • Luis, Hen Wyddeleg Luis efallai "llysien" neu "llosg".
  • Fearn, Hen Wyddeleg Fern : "gwernen" (*wernā mewn Gwyddeleg Gyntefig).
  • Sail, Hen Wyddeleg Sail : "helygen".
  • Nion, Hen Wyddeleg Nin : efallai "fforch" neu "nen".
  • Uath, Hen Wyddeleg Úath : efallai "ofn, arswyd" neu "aeth".
  • Dair, Hen Wyddeleg Dair : "derwen".
  • Tinne, Hen Wyddeleg Tinne : efallai "bar o fetel".
  • Coll, Hen Wyddeleg Coll : "collen".
  • Ceirt, Hen Wyddeleg Cert : "perth".
  • Muin, Hen Wyddeleg Muin: efallai "gwddw" neu "ystryw" neu "mwynder".
  • Gort, Hen Wyddeleg Gort : "cae".
  • nGéadal, Hen Wyddeleg Gétal efallai "lladd"
  • Straif, Hen Wyddeleg Straiph : swlffwr.
  • Ruis, Hen Wyddeleg Ruis : "coch".
  • Ailm, Hen Wyddeleg Ailm : ansicr, efallai "pinwydden".
  • Onn, Hen Wyddeleg Onn : "onnen".
  • Úr, Hen Wyddeleg Úr :"pridd".
  • Eadhadh, Hen Wyddeleg Edad : ansicr.
  • Iodhadh, Hen Wyddeleg Idad : efallai "ywen".

Y Forfeda golygu

 
Llythrennau'r Forfeda

Ceir hefyd pum llythyren ychwanegol, sef y Forfeda, sy'n gyfyngedig i lawysgrifau cyfnod yr Hen Wyddeleg megis Auraicept na n-Éces, De dúilib feda a Lebor Ogaim, rhyw saith canrif ar ôl uchafbwynt y defnydd o Ogam.

  • Eabhadh, Hen Wyddeleg Ebhadh: "aethnen".
  • Ór: "aur".
  • Uilleann, Hen Wyddeleg Uilleand: "elin".
  • Pín, wedyn Ifín, Hen Wyddeleg Iphin: ansicr.
  • Eamhancholl: "gefell collen"

Cerrig ogham Cymru golygu

Darllen pellach golygu

  • Damian McManus, A Guide to Ogam (An Sagart, Coleg Padrig Sant, Maynooth, 1997). Astudiaeth academaidd drylwyr gyda llyfryddiaeth lawn.