Yr Oireachtas yw senedd genedlaethol a deddfwriaethol Gweriniaeth Iwerddon, a elwir weithiau yn Oireachtas Éireann. Caiff ei rhedeg o swyddfa Arlywydd Iwerddon ac mae'n cynnwys dau dŷ neu siambr a elwir weithiau yn "Tai'r Oireachtas", sef Dáil Éireann (y seddi blaen) a Seanad Éireann (y seddi cefn). Mae'n cynnwys, hefyd, Arlywydd Iwerddon.

Oireachtas
Mathsenedd, Dwysiambraeth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1937 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Tŷ Leinster

Mae Tai'r Oireachtas yn ymgynnull yn Nhŷ Leinster yn ninas Dulyn sef hen blasdy o'r 18g. Y Dáil, sy'n cael ei ethol yn uniongyrchol, yw'r gangen rymusaf o lawer o'r Oireachtas.

Yr aelodau golygu

Mae'r Dáil Éireann, yn cael ei hethol yn uniongyrchol gan drigolion y wlad dros 18 oed. Cynhelir etholiad i'r perwyl unwaith pob pum mlynedd, fel sy'n ofynol gan y Ddeddf. Ond gall y Taoiseach (pennaeth y Llywodraeth) alw etholiad yn amlach na hyn. Defnyddir cynrychiolaeth gyfrannol i ethol aelodau'r Dáil. Ers 1981 bu nifer yr aelodau'n 166. Nid ydy'r Seanad yn cael eu hethol yn uniongyrchol, eithr yn griw amrywiol sy'n cael eu hethol mewn ffyrdd gwahanol:

  • caiff 43 seneddwr eu hethol gan y cynghorau a'r llywodraethwyr
  • caiff 11 eu hethol (neu eu henwi) gan y Taoiseach, a
  • 6 aelod gan brifysgolion y wlad

Cyfanswm yr aelodau, felly, ydy 60. Etholir Llywydd Iwerddon i'r swydd am gyfnod o 7 mlynedd. Caiff wneud hyn ddwywaith yn unig.

Diwygio nid diddymu golygu

Cynhaliwyd refferendwm ar 4 Hydref 2013 yn gofyn a ddylid cael gwared ar yr ail siambr, Seanad Éireann, gan droi Iwerddon fewn i deddfwrfa unsiambr. Pleidleisiodd 39% o'r boblogaeth oedd â'r hawl yn y refferendwm. Er syndod i rai, pleidleisiodd y mwyafrif yn erbyn dileu y Seanad o 51% i 48% oedd am ei ddileu.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.