Cantores ac ysgrifennwr caneuon Rwsia yw Olga Seryabkina (Rwsieg:Ольга Юрьевна Серябкина; ganed 12 Ebrill 1985 ym Moscow, Rwsia). Mae hi'n enwog fel aelod o'r grŵp a gynrychiolodd Rwsia yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007.

Olga Seryabkina
FfugenwMOLLY Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Label recordioMonolith Records, Universal Music Group, Warner Music Russia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, Europop Edit this on Wikidata
Taldra1.58 ±0.01 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://seryabkina.com Edit this on Wikidata

1992-2006: Gyrfa cynnar golygu

Dechreuodd Seryabkina astudio bale pan oedd hi'n 7 oed a phan oedd hi'n 17 oed dilynodd hi gyrfa chwaraeon a chyfranogodd yn amryw cystadleuaethau rhyngwladol. Gweithiodd hi fel dawnsiwr/cantores gefnogaeth i'r gantores Rwsia Iraklij o 2004 - 2006.

2007-presennol: Serebro golygu

Prif: Serebro

Daeth Elena Temnikova â Seryabkina i'r castio Serebro, roedd Temnikova aelod yn barod, ac ymunodd Seryabkina â'r grŵp. Cynrychiolodd Serebro Rwsia yn Eurovision 2007 gyda'r gân "Song #1" (cân gyntaf y grŵp) a daethant yn drydydd yn y gystadleuaeth. Daeth Serebro yn un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd yn Rwsia a dechreuodd Seryabkina ysgrifennu caneuon i'r grŵp yn 2007. Hefyd yn 2007, roedd suon am y posibilrwydd y byddai Seryabkina'n gadael y grŵp o achos tensiwn rhyngddi hi a Temnikova. Dywedodd Maxim Fadeev, cynhyrchydd y grŵp, ei fod e wedi ffeindio olynydd i Seryabkina ond penderfynodd hi beidio a gadael y grŵp.

Bywyd personol golygu

Graddiodd Seryabkina yn yr ysgol celf, enillodd diploma addysg uwch ar gyfer arbenigaeth yn y byd cyfieithiad ac entrepreneuriaeth. Gall hi'n siarad Rwsieg, Saesneg ac Almaeneg yn rhugl.

Dolen allanol golygu