Math o asid oleig (rhan o'r moleciwl olew) yw Omega 3 (neu n-3). Dyma'r asid oleig a geir mewn hadau pwmpen, llin a rêp yn ogystal â physgod fel y sardîn, macrell, brithyll ac eog. Enw Saesneg ar Omega 3 yw 'ω−3 fatty acids' neu 'omega-3 fatty acids'

Hadau Salvia Hispanica gyfoethog mewn omega-3.

Prif reswm ei enwocrwydd i ni heddiw yw ei rôl yn y deiet yn amddiffyn rhag clefyd y galon. Ychwanegir olew omega 3 at fargarîn (fel Flora) a chynnyrch arall. Sail y gred oedd ymchwil gyda chleifion efo problemau'r galon, mae'r olew yn arafu datblygiad y clefyd.

Ymchwil Newydd golygu

Ym mis Ionawr 2010 daeth ymchwil pwysig newydd o America. Darganfyddwyd bod un math o Omega 3 yn gysylltiedig â lleihau byrhad y telomer (pen y cromosôm). Mae ymchwil am heneiddio yn dangos bod byrhad y telomer fel cloc genetaidd, po fyrraf y telomer po hynaf y gell. Dros gyfnod o wyth mlynedd fe welodd yr ymchwilwyr bod y chwarter oedd yn bwyta lefelau uchel o Omega 3 wedi gwneud yn well efo eu clefyd y galon nag y chwarter oedd yn bwyta y lleiaf o Omega 3 yn eu deiet. Roedd y ffigyrau yn ddigon i anfon yr ymchwil o gwmpas y byd ar ddiwrnod cyntaf ei gyhoeddi.

Mae llywodraeth Canada wedi mynd mor bell a datgan bod "yr asig oleig DHA Omega 3 yn cefnogi datblygiad normal yr ymennydd, y llygaid a'r nerfau" Hadau llin sydd a'r cyfradd uchaf o Omega 3 fel y dengys y rhestr isod, ond nid yw hyn y math iawn o Omega 3 (DHA a EPA). Dim ond pysgod sydd a'r Omega 3 yn y ffurf perffaith.

Llin - Linum usitatissimum 18.1% Canabis - Cannabis sativa 8.7% Cnau Ffrengig - Juglans regia 6.3% Cnau Pecan - Carya illinoinensis 0.6% Cnau Collen - Corylus avellana 0.1%

Mae'r corff yn gallu troi yr olew o hadau i'r fersiwn DHA a EPA.

Y Moleciwl golygu

DHA ac EPA yw'r math o Omega 3 a defnyddir mewn papurau gwyddonol gan fod mwy nag un fath o Omega 3 ar gael. (DHA = docosahexaenoic acid), (EPA = eicosapentaenoic acid) yn yr enw arall sef 'n-3 asid oleig' mae'r 3 yn cyfeirio at y bond dwbl ar y trydydd atom Carbon o'r diwedd. Mae'r bond dwbl yma yn y patrwm 'cis' fel y rhan fwyaf o olewau naturiol, o gymharu ag olew 'trans'. Cysylltir olew 'trans' a phroblemau'r galon ond mae'r olew yna yn para am fisoedd heb bydru.

 

Ffynnonellau golygu

Canadian Food Inspection Agency. Summary Table of Biological Role Claims Table 8-2. http://www.inspection.gc.ca/english/fssa/labeti/guide/ch8e.shtml

DeFilippis, Andrew P.; Laurence S. Sperling. "Understanding omega-3's"

Association of Marine Omega-3 Fatty Acid Levels With Telomeric Aging in Patients With Coronary Heart Disease http://jama.ama-assn.org/cgi/content/abstract/303/3/250

www.dailymail.co.uk