Llyfr gan Edward Said a gyhoeddwyd ym 1978 yw Orientalism sy'n ddylanwadol ac yn ddaleuol yn astudiaethau ôl-drefedigaethol a meysydd eraill. Dadleua Said bod ysgolheictod y Gorllewin ar y Dwyrain Canol yn cynnwys rhagfarn Ewroganolog yn erbyn Arabiaid a Mwslimiaid. Tyn Said ar draddodiad hir o ramantiaeth tuag at Asia a'r Dwyrain Canol yn niwylliant y Gorllewin, a dadleua bod hyn wedi'i ddefnyddio i gyfiawnhau trefedigaethrwydd ac imperialaeth Ewropeaidd ac Americanaidd. Condemiodd Said hefyd yr elitau Arabaidd sy'n mewnoli syniadau Dwyreinyddiaeth (Orientalism).

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.