Tref farchnad yng ngorllewin Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ormskirk.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Saif 13 milltir (21 km) i'r gogledd o ganol dinas Lerpwl, 11 milltir (18 km) i'r gogledd-orllewin o St Helens, 9 milltir (14 km) i'r de-ddwyrain o Southport a 15 milltir (24 km) i'r de-orllewin o Preston. Mae Caerdydd 233.1 km i ffwrdd o Ormskirk ac mae Llundain yn 296 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 17.4 km i ffwrdd.

Ormskirk
Mathtref, ardal ddi-blwyf, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerhirfryn
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.5665°N 2.8869°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD415085 Edit this on Wikidata
Cod postL39 Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Safai Ormskirk o'r llethr ar ochr cribyn, mae pwynt uchaf y grib 68 medr uchel lefel y môr, yng nghanol Gwastadedd Arfordirol Swydd Gaerhirfryn,[2] ac mae wedi cael ei disgrifio fel bwrdeistref sydd wedi cael ei chynllunio, gan iddi gael ei gosod allan yn yr 13g.[3]

Nid oes gan Ormskirk blwyf ei hunan, ac amgylchynir gan blwyfi Bickerstaffe, Aughton, Scarisbrick, Burscough a Lathom, a thref heb blwyf Skelmersdale.[4]

Lleolir y dref yn ardal Gorllewin Swydd Gaerhirfryn ac yn gartref i bencadlys Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Mae Ormskirk hefyd yn 'dref bost' yn ardal cod post Lerpwl.

Gan nad oes gan Ormskirk gyngor plwyf, sefydlwyd cymdeithas wirfoddol yr Ormskirk Community Partnership, yn 2009, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, er mwyn rhoi llais i bobl Ormskirk.[5]

Mae Ormskirk hefyd yn gartref i Brifysgol Edge Hill.[6]

Pobl o nod golygu

Aelodau Seneddol dros Ormskirk golygu

Chwaraewyr pêl-droed golygu

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 18 Awst 2023
  2. Townships: Ormskirk Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback., British History Online
  3. Lancashire.gov.uk Archifwyd 2007-07-05 yn y Peiriant Wayback., Ormskirk historic town assessment, Lancashire County Council, 2006
  4. Mariolancashire.gov.uk, Map of Lancashire parishes
  5. Westlandsdc.gov.uk Ormskirk Community Partnership
  6. Edgehill.ac.uk Archifwyd 2008-08-24 yn y Peiriant Wayback., Edge Hill's 'how to find us' page
  7. "Tributes as ex-Everton goalie dies, aged 76", Ormskirk Advertiser, Issue 13,698, 20 December 2007, p. 12