Terfysgwr Islamaidd a ystyrir yn sylfaenwr Al-Qaeda oedd Osama bin Mohammed bin Awad bin Laden (Arabeg: أسامة بن محمد بن عوض بن لادن‎, ʾUsāmah bin Muḥammad bin ʿAwaḍ bin Lādin; 10 Mawrth 19572 Mai 2011).

Osama bin Laden
Ganwydأسامة بن محمد بن عوض بن لادن Edit this on Wikidata
10 Mawrth 1957 Edit this on Wikidata
Riyadh Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 2011 Edit this on Wikidata
caer Osama bin Laden yn Abbottabad Edit this on Wikidata
Man preswylcaer Osama bin Laden yn Abbottabad, cartref Osama bin Laden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSawdi Arabia, di-wlad Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol y Brenin Abdulaziz
  • Prifysgol y Brenin Abdulaziz
  • Al-Thager Model School
  • Ysgol Uwchradd Brummana
  • Thomas Sprigg Wootton High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethjihadist, peiriannydd sifil, person busnes, terfysgwr Edit this on Wikidata
SwyddGeneral Emir of Al-Qaeda Edit this on Wikidata
Taldra195 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau75 cilogram Edit this on Wikidata
MudiadSalafi jihadism, Jihadism, Pan-Islamism, Gwrth-Semitiaeth, Anti-Christian sentiment, Gwrth-gomiwnyddiaeth, anti-Americanism Edit this on Wikidata
TadMohammed bin Awad bin Laden Edit this on Wikidata
MamHamida al-Attas Edit this on Wikidata
PriodNajwa bin Laden, Khairiah Sabar, Osama bin Laden's fifth wife, Siham Sabar Edit this on Wikidata
PlantSaad bin Laden, Omar bin Laden, Hamza bin Laden, Abd Allah bin Laden, Khalid bin Laden, Miriam bin Laden, Sumaiya bin Laden Edit this on Wikidata
LlinachBin-Laden Family Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Riyadh, Sawdi Arabia, yn aelod o deulu cyfoethog a dylanwadol bin Laden. Ym 1996 ac eto ym 1999 cyhoeddodd ef a nifer eraill ddwy fatwa, yn dweud y gellid lladd aelodau o luoedd arfog neu ddinasyddion yr Unol Daleithiau hyd nes iddynt dynnu eu lluoedd arfog o'r gwledydd Islamaidd a rhoi'r gorau i gefnogi Israel. Cred yr Unol Daleithiau iddo fod a rhan yn yr ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Dar es Salaam, Tansanïa, a Nairobi, Cenia.

Osama Bin Laden oedd yn gyfrifol am drefnu llofruddiaeth Ahmad Shah Massoud, arweinydd gwrthryfel yn erbyn y Taliban ac Al-Qaeda yng Ngogledd Afghanistan.[1]

Credir yn gyffredinol mai Osama bin Laden ac Al-Qaeda fu'n gyfrifol am drefnu Ymosodiadau 11 Medi 2001 ar yr Unol Daleithiau, pan gipiwyd awyrennau a'u hedfan i mewn i Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Arlington, Virginia.

Marwolaeth golygu

Ar 1 Mai 2011, adroddodd Arlywydd Obama y lladdwyd bin Laden yn ystod gweithred filwrol yr Unol Daleithiau gan "dîm bychan o Americaniaid", mewn gweithred gudd yn Abbottabad, Pacistan, 93 milltir (150 km) i'r gogledd o Islamabad,[2] a chadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd gan swyddogion yr Unol Daleithiau i'r cyfryngau yn gynharach.[3] Drwy ddefnyddio corff bin Laden, a'i gymharu â samplau DNA ei chwaer, cadarnhawyd mai bin Laden ydoedd.[4] Derbyniwyd y corff gan fyddin yr Unol Daleithiau a chafodd ei gladdu yn y môr.[5]

Yn ôl yr Arlywydd Obama, cynorthwyodd llywodraeth Pacistan hefyd yn y weithred o'i ddal.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Death of an Afghan icon: 20 years since the assassination of Ahmad Shah Massoud". France 24 (yn Saesneg). 2021-09-09. Cyrchwyd 2023-09-13.
  2. Osama bin Laden is dead, Obama announces , The Guardian, 2 Mai 2011.
  3. Osama bin Laden, the face of terror, killed in Pakistan , CNN.com, The Cable News Network, 01 Mai 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2011.
  4.  Osama bin Laden Killed; ID Confirmed by DNA Testing. ABC News (1 Mai 2011).
  5. Osama bin Laden buried at sea after being killed in US raid in Pakistan Archifwyd 2011-07-07 yn y Peiriant Wayback. Metro.co.uk Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2011