Polisi tramor o nesâd oedd Ostpolitik (Almaeneg am "bolisi dwyreiniol") dan Willy Brandt, Canghellor Gorllewin yr Almaen rhwng 1969 a 1974, i normaleiddio gysylltiadau ei wlad â gwledydd y Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR). Roedd y polisi yn newidiad ar Westpolitik y Canghellor Konrad Adenauer ac eraill oedd yn ceisio ynysu'r DDR a mynnu taw Gorllewin yr Almaen oedd yr unig wladwriaeth Almaenig gyfreithlon.

Willy Brandt (chwith) a Willi Stoph yn Erfurt ym 1970

Gweler hefyd golygu