Ieithydd Daneg ac arbennigwr ar yr iaith Saesneg oedd Otto Jespersen (16 Gorffennaf 1860 - 30 Ebrill 1943). Fe'i ganed yn Randers yng ngogledd Jutland, a mynychodd Brifysgol Copenhagen, lle astudiodd Saesneg, Ffrangeg a Lladin. Treuliodd adeg yn astudio yn Rhydychen hefyd. Athro Saesneg oedd ef ym Mhrifysgol Copenhagen o 1893 tan 1925. Yno sefydlodd y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol. Roedd ei brif weithiau megis Growth and structure of the English language (1905) ac A modern English grammar on historical principles (1909–49), yn ymdrin â strwythur a hanes y Saesneg. Roedd hefyd yn ymddiddori mewn prosiectau i greu ieithoedd rhyngwladol artiffisial megis Ido a Novial.

Otto Jespersen
Ganwyd16 Gorffennaf 1860 Edit this on Wikidata
Randers Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Roskilde, Copenhagen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDenmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, Esperantydd, hunangofiannydd, addysgwr, ysgrifennwr, academydd, siaradwr Ido, Saesnegydd, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddrheithor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolSocial Democrats Edit this on Wikidata
Gwobr/auVolney Prize, Marchog Urdd y Dannebrog, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Columbia, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Honorary doctor of the Sorbonne Edit this on Wikidata

Prif weithiau Jespersen golygu

  • The articulations of speech sounds represented by means of analphabetic symbols (Marburg, 1889)
  • Fonetik, en systematisk fremstilling af læren om sproglyd (København, 1897–9) (cyfieithwyd i'r Almaeneg fel Lehrbuch der Phonetik (Leipzig, 1904))
  • Growth and structure of the English language (Leipzig, 1905)
  • A modern English grammar on historical principles (Heidelberg, 7 cyf., 1909–49)
  • Negation in English and other languages (København, 1917)
  • Language : its nature, development and origin (1922)
  • The philosophy of grammar (Llundain, 1924)
  • Mankind, nation and individual from a linguistic point of view (Oslo, 1925) (cyhoeddwyd yn Ddaneg fel Menneskehed, nasjon og individ i sproget (Oslo, 1925))
  • An international language (Llundain, 1928) (cyflwyniad i'r iaith Novial)
  • Essentials of English grammar (Llundain, 1933)
  • Analytic syntax (Llundain, 1937)
  • En sprogmands levned (København, 1938) (Ei hunangofiant) (cyfieithwyd i'r Saesneg fel A linguist's life (Odense, 1995))
  • Efficiency in linguistic change (København, 1941)


   Eginyn erthygl sydd uchod am Ddaniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.