Papur newydd rhanbarthol Ffrangeg yw Ouest-France, sydd yn cael ei ddosbarthu, fel y mae'r enw yn awgrymu, yng ngorllewin Ffrainc.

Sefydlwyd y papur newydd ym 1944, ac fe'i cyhoeddir yn Rennes a Nantes. Mae gan y papur gylchrediad o tua 792,400 (sydd yn fwy nag unrhyw bapur Ffrengig cenedlaethol) ac fe'i dosberthir yn Llydaw yn bennaf. Yn wahanol i nifer o bapurau eraill Ffrainc, nid yw Ouest-France wedi dioddef gostyngiad yn y nifer o ddarllenwyr yn ddiweddar.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato