Dinas yng ngogledd-ddwyrain Moroco yw Oujda (Arabeg: وجدة‎). Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco ac Algeria a rhyw 60 km i'r de o lan y Môr Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarth L'Oriental.

Oujda
Delwedd:Oujdacol.jpg, FARAJI Brahim - LA GRANDE MOSQUEE DU MEDINA OUJDA - Septembre2015.jpg
Mathdinas, urban commune of Morocco, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth614,000 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Lille, Oran, Reggio Emilia, Aix-en-Provence, Sevran, Sirte, Trowbridge, Jouy-le-Moutier, Jeddah Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOujda-Angad Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd96.4 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr470 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.6867°N 1.9114°W Edit this on Wikidata
Cod post60000 Edit this on Wikidata
MA-OUJ Edit this on Wikidata
Map
Marchnad Dydd Gwener, Oujda

Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda â Fes a Casablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws y Maghreb yn cysylltu Moroco, Algeria a Tiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw.

Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaith Mauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y Zenata Berber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu gan Ffrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco.

Ganed Abdelaziz Bouteflika, arlywydd Algeria, yn Oujda.

Gefeilldref golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato