Dinas yn nhalaith Gafsa, Tiwnisia yw Oum El Araies (Arabeg أم العرائس hefyd Oum Larais) neu Moularès (Ffrangeg). Fe'i lleolir yn ne-orllewin canolbarth Tiwnisia tua 50 km i'r gorllewin o ddinas Gafsa, ger y ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria gyda mynydd Djebel Mrata (948 metr) yn gorwedd rhyngddi â'r ffin. Poblogaeth: 24,487 (2004).[1]

Oum El Araies
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGafsa Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau34.5°N 8.3°E Edit this on Wikidata
Cod post2130 et 2110 Edit this on Wikidata
Map

Dominyddir economi'r ddinas gan y diwydiant mwyngloddio ffosffad, a hynny ers dechrau'r 20g. Mae rheilffordd yn cludo'r ffosffad o Oum El Araies i Sfax, ar arfordir y Môr Canoldir, er mwyn ei brosesu yno a'i allforio.

Yn Ionawr 2011, bu protestiadau yn y ddinas fel rhan o'r gwrthryfel poblogaidd yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Zine Ben Ali.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-01-05.