Owain Lawgoch

milwr wrth ei grefft ac ymhonnwr i dywysogaeth Cymru

Roedd Owain Lawgoch, enw bedydd Owain ap Thomas ap Rhodri (Ffrangeg, Yvain de Galles "Owain Gymro"; Saesneg, Owain of the Red Hand) (tua 133022 Gorffennaf 1378[1][2]), yn ŵyr i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ef oedd etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, a chyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru. Treuliodd ran helaeth o'i oes fel milwr yn Ffrainc, yn ymladd dros frenin Ffrainc yn erbyn Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Cynlluniodd nifer o ymgyrchoedd i Gymru i hawlio ei etifeddiaeth, ond ni lwyddodd i lanio yno. Llofruddiwyd ef gan asiant cudd y llywodraeth Seisnig tra'n gwarchae ar gastell Mortagne.

Owain Lawgoch
Arfbais Owain Lawgoch, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan Owain Glyn Dŵr
Ganwyd1330 Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 1378 Edit this on Wikidata
Mortagne-sur-Gironde Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines, person milwrol Edit this on Wikidata
TadTomas ap Rhodri Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata
Cerflun i Owain yn Mortagne-sur-Gironde

Llinach golygu

 
Arfbais Teyrnas Gwynedd yng nghyfnod y ddau Lywelyn. Roedd ystum y llewod wedi ei newid erbyn cyfnod Owain Lawgoch

Lladdwyd Llywelyn yr Ail ym mis Rhagfyr 1282, a dienyddiwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283. Carcharwyd plant y ddau i gyd am oes gan frenin Lloegr, Edward I. Roedd brawd arall, Owain Goch, yn ôl pob tebyg eisoes wedi marw, gan adael un brawd ar ôl, Rhodri ap Gruffudd. Nid oedd ef wedi cymryd unrhyw ran yn llywodraeth Gwynedd, ac wedi gwerthu ei hawl ar ran o'r deyrnas i'w frawd Llywelyn tua 1270, ac wedi symud i fyw i Loegr.

Tua 1302 aeth Rhodri i Tatsfield, Surrey i fyw wedi iddo briodi Catherine. Mae Tatsfield oddeutu 18 milltir o ganol Llundain ac mae rhai enwau llefydd Cymraeg yn dal i fodoli yn y pentre bychan e.e. Maesmaur Road).

Thomas ap Rhodri oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, a Gruffudd de la Pole, o deulu hen dywysogion Powys Wenwynwyn, yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn Swydd Gaer a Tatsfield yn Surrey, ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gaer am diroedd yn Bidfield, Swydd Gaerloyw a Dinas ym Mechain Is Coed (gogledd Powys). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth Llŷn, fel etifedd ei ewythr Owain Goch, ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.

Yn 1365, gwyddus fod Owain wedi dychwelyd o Ffrainc i Loegr i hawlio ei etifeddiaeth: Coron Cymu. Yn 1369 roedd yn ôl yn Ffrainc yn ymladd ar ochor Brenin Ffrainc. Pan glywodd brenin Lloegr am hyn cafodd tir Owain ei ddwyn oddi arno a chyhuddwyd ef o frad.

 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378

Ei yrfa filwrol golygu

 
Bertrand du Guesclin oedd prif arweinydd milwrol Ffrainc yn y cyfnod yma. Cerflun yn Dinan

Cefndir: y Rhyfel Can Mlynedd golygu

Roedd brenhinllin Lloegr o Ffrainc yn wreiddiol, ac roedd y brenhinoedd Angevin yn dal tiroedd eang yn Normandi, Maine, Anjou, Touraine, Poitou, Gasgwyn, Saintonge ac Aquitaine, gan ffurfio'r ymerodraeth Angevin. Yn raddol, collwyd llawer o'r tiroedd hyn yn ystod y cyfnod rhwng 1214 a 1324. Yn 1328, bu farw Siarl IV, brenin Ffrainc, heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd Edward III, brenin Lloegr ymhlith y rhai oedd yn hawlio gorsedd Ffrainc, ond penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni Philip o Valois, oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois.

Ym 1337, cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc, a dechreuosdd y rhyfel. Ym mis Gorffennaf 1346, ymosododd Edward III ar Ffrainc, ac yn fuan wedyn enillodd fuddugoliaeth dros y Ffrancwyr ym Mrwydr Crécy. Y prif reswm dros y fuddugoliaeth oedd effeithiolrwydd y bwa hir.

Yn 1348, effeithiwyd ar Ewrop gan y Pla Du, a chymerodd rai blynyddoedd cyn i'r teyrnasoedd fedru adfer eu nerth. Yn 1356, ymosododd Edward, y Tywysog Du, mab Edward III, ar Ffrainc, ac enillodd fuddugoliaeth fawr arall ym Mrwydr Poitiers, eto yn bennaf oherwydd defnydd y bwa hir. Cymerwyd brenin Ffrainc, Jean II, yn garcharor. Yn ddiweddarch y flwyddyn honno rhoddodd Cytundeb Llundain diriogaeth Aquitaine i Loegr yn gyfnewid am ei ryddid.

Achosodd y rhyfel galedi mawr yn Ffrainc, ac yn 1358 gwrthryfelodd y werin yn ngherfysgoedd y Jacquerie. Ymosododd Edward eto, ond ni allodd gipio Paris. Yn 1360, arwyddwyd Cytundeb Brétigny, a roddodd ddiwedd ar yr ymladd am bron ddeng mlynedd. Dan y cytundeb yma, roedd Aquitaine a thiriogaethau eraill, dros draean o Ffrainc i gyd, yn dod yn eiddo'r Tywysog Du. Fodd bynnag, erbyn 1368, roedd trigolion yr ardal wedi troi yn ei erbyn oherwydd y trethi uchel yr oedd yn ei godi arnynt, ac apeliodd rhai o'r uchelwyr at Siarl V, oedd wedi dod yn frenin Ffrainc yn 1364. Roedd Siarl eisoes yn paratoi i ail-ddechrau'r rhyfel, a llwyddodd i ffurfio byddin barhaol o 3,000 o wŷr neu fwy. Roedd y fyddin yma wedi ei ffurfio o gwmnïau o gant o dan gapteiniaid, oedd yn cael eu talu am wasanaeth eu cwmni. Ymhlith y prif arweinwyr roedd Bertrand du Guesclin, mân uchelwr o Lydaw. Ail-ddechreuodd y rhyfel ym mis Mehefin, 1369.[3]

Ymgyrchoedd cynnar golygu

 
Y brenin Siarl V yn cyflwyno cleddyf Cwnstabl Ffrainc i Bertrand du Guesclin, 2 Hydref 1369.

Nid oes sicrwydd pa bryd y daeth Owain i wasanaeth brenin Ffrainc. Dywed John Davies "ymddengys iddo tua 1350 ymrwymo i wasanaeth brenin Ffrainc",[4] a dywed Froissart ei fod wedi mynd i Ffrainc yn ŵr ieuanc ac wedi ymladd ar ochr Ffrainc ym Mrwydr Poitiers yn 1356,[5] ond yn ôl A.D. Carr nid oes sicrwydd ei fod yng ngwasanaeth Ffrainc hyd 1369. Pan fu farw ei dad yn 1363, roedd Owain dramor, yn Ffrainc yn ôl pob tebyg. Dychwelodd i Loegr i hawlio ei etifeddiaeth yn 1365; gallai wneud hynny'n ddiogel ar y pryd hyd yn oed os oedd yng ngwasanaeth brenin Ffrainc, oherwydd ei fod yn gyfnod o heddwch. Dychwelodd i Ffrainc yn 1366, ac wedi i'r rhyfel ail-ddechrau yn 1369, fforffedodd ei diroedd yng Nghymru a Lloegr.[6]

Roedd ganddo oddeutu 400 o Gymry yn ei 'gwmni rhydd' ac yn eu plith Ieuan Wyn (disgynydd Ednyfed Fychan) a Hywel Fflint (a oedd yn gyfrifol am ddal Syr Thomas Percy'n garcharor. Roedd yn gyfaill ac yn un o llawiau Bertrand du Guesclin, milwr pwerus iawn o Lydaw yn ogystal â brenin Ffrainc, Siarl V.

Yn 1369, disgrifia Christine de Pisan Owain, a ddisgrifir ganddi fel gwir etifedd Tywysog Cymru, yn ymladd ar ochr Ffrainc. Gydag ef roedd Ieuan Wyn, oedd yn berthynas iddo meddai Christine, a nifer o Gymru eraill. Dywed A. D. Carr ei bod yn amlwg fod Christine yn adnabod Owain a Ieuan yn bersonol, ac yn eu hedmygu.[7]

 
Castell Saumur, a fu yng ngofal Owain yn 1370.

Cafodd Owain gymorth Siarl V yn ei ymdrechion i hawlio coron Cymru. Gwnaeth ei ymdrech gyntaf yn niwedd 1369, pan dalodd Siarl i gasglu llynges yn Harfleur i hwylio am Gymru gan arweiniad Owain. Hwyliodd y llongau ychydig cyn y Nadolig, ond gorfodwyd hwy i ddychwelyd i'r porthladd oherwydd stormydd.

Yn 1370 roedd Owain yn gwasanaethu gyda Bertrand du Guesclin yn Maine ac Anjou, ac yn geidwad castell Saumur ar afon Loire. Yn mis Gorffennaf 1371 roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref Metz, ac ym mis Rhagfyr cofnodir eu bod yn symud trwy ran ogleddol Bwrgwyn.[8]

Ym mis Mai 1372 cyhoeddodd yn ninas Paris ei fod yn hawlio coron Cymru. Cafodd fenthyg arian gan Siarl V, a hwyliodd i ymosod ar Frenin Lloegr. Ymosododd ar Ynys y Garn (Guernsey) i ddechrau, ac roedd yn dal yno pan gyrhaeddodd neges gan Siarl yn rhoi gorchymyn iddo roi'r gorau i'r ymgyrch a hwylio i Castile i gasglu mwy o longau er mwyn ymosod ar y Saeson yn La Rochelle. Ym Mrwydr La Rochelle, cafodd y llynges Sbaenig a Ffrengig fuddugoliaeth dros y llynges Seisnig. Yn fuan wedyn, gorchfygodd Owain fyddin o Saeson a Gascwyniaid yn Soubise, gan gymeryd Syr Thomas Percy a Jean de Grailly, y Captal de Buch, yn garcharorion.[9] Ildiodd garsiwn Seisnig La Rochelle yn gynnar ym mis Medi; dywed un cronicl iddynt wrthod ildio i Owain, a mynnu cael ildio i frodyr Siarl V, Dug Anjou a Dug Berry.[10]

Roedd cynllun am ymgyrch i Gymru eto yn 1373, gyda chymorth y Castiliaid yn ogystal â Ffrainc, ond bu raid rhoi'r gorau i'r cynllun pan ddechreuodd John o Gaunt ymosodiad. Ym mis Mawrth, roedd yn aelod o fyddin Ffrengig a orchfygodd fyddin Seisnig, yn cynnwys y Cymro Syr Grigor Sais, oedd yn ceisio codi gwaarchae Chizé, ac ym mis Mehefin cyflogwyd ef a'i gwmni i gadw golwg ar John o Gaunt.[11] Yn 1374, bu Owain yn ymladd yn Mirebau ac yn Saintonge.

Rhyfel y Gugler golygu

 
Jean Froissart yw'r croniclydd sy'n rhoi fwyaf o hanes Owain. Cerflun yn y Louvre.

Ym 1375, roedd Owain yn un o arweinwyr y fyddin o hurfilwyr Ffrengig a Seisnig a gyflogwyd gan Enguerrand VII de Coucy yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Gugler, i geisio ennill ei etifeddiaeth yn y Swistir oddi wrth ei berthnasau Habsburg.[12] Y bwriad oedd cipio Sundgau, Breisgau a sir Ferrette oddi wrth Albrecht III, Dug Awstria a Leopold III, Dug Awstria.

Yn ystod Hydref a Thachwedd 1375, ymosododd y Gugler ar y Sundgau, a dinistriwyd 40 pentref. Gorfodwyd Leopold i encilio i Breisach ar afon Rhein. Ym mis Rhagfyr, croesodd y Gugler fynyddoedd y Jura i ddyffryn afon Aare. Roedd y fyddin yn dair rhan; Enguerrand de Coucy yn arwain y brif fyddin, oedd yn abaty St. Urban, Jean de Vienne yn arwain yr ail uned, oedd yn abaty Gottstatt, ac Owain Lawgoch yn arwain y drydedd ran, oedd yn abaty Fraubrunnen. Ymosododd y Gugler ar ran orllewinol yr Aargau, gan ddinistrio trefi Fridau ac Altreu.

Gwrthwynebwyd hwy gan y boblogaeth leol, a'u gorchfygodd ger Buttisholz ar 19 Rhagfyr, gan ladd 300 o farchogion, a ffurfiwyd byddin gan drigolion Bern, a laddodd 300 arall y noson cyn y Nadolig. Ar 27 Rhagfyr, ymosodasant ar fyddin Owain yn abaty Fraubrunnen pan oeddynt yn cysgu. Ymladdodd y Gugler yn galed, a lladdwyd arweinydd byddin Bern, Hans Rieder, ond pan roddwyd yr adeilad ar dân bu raid iddynt encilio. Lladdwyd 800 o'r marchogion Gugler. Gadawyd cytundeb Owain gyda de Coucy ar ôl wrth iddynt encilio, ac mae yn archifau'r Swistir heddiw. Erbyn Ionawr 1376 roedd byddin y Gugler wedi dychwelyd i Ffrainc ac ymwahanu.

Dathlodd Bern ei buddugoliaeth mewn baled dan y teitl Cân yr Arth (yr arth yw symbol Bern):

Daeth Dug Owain o Gymru i Fraubrunnen, Rhuodd yr arth "Ni elli di ddianc oddi wrthyf fi, Fe'th laddaf a'th drywanu a'th losgi farwolaeth". Yn Lloegr a Ffrainc llefodd y gweddwon gyda'i gilydd, "Gwae, Gwae, Yn erbyn Bern ni fydd neb yn ymgyrchu eto".[13]

Nododd Carr fod hyn yn dangos fod clod Owen fel cadfridog yn gyfryw fel bod buddugoliaeth drosto yn rhywbeth i ymffrostio ynddi.

Ymgyrchoedd diweddar golygu

 
Enillodd y Ffrancwyr lawer o diriogaeth oddi ar y Saeson yn nghyfnod Owain.

Erbyn hyn roedd Heddwch Bruges rhwng Ffrainc a Lloegr bron a dod i ben; roedd yn gorffen yn swyddogol yn 1377, ond roedd paratoadau ar gyfer ail-ddechrau'r ymladd eisoes ar y gweill erbyn dechrau 1376. Yn nechrau mis Mawrth, cofnodir cyflogi Owain a'i gwmni o un marchog a 98 esgweier, a chasglwyd ei gwmni ar ei gilydd yn Rheims ar 20 Ebrill. Roedd Owain a'i gwmni yn awr yn gwasanaethu dan Louis de Sancerre, Marsial Ffrainc. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, roeddynt yn Limoges.[14]

Yn 1377, bu Owain yn ymladd yn Périgord dan Ddug Anjou, du Guesclin a Louis de Sancerre. Ym mis Awst y flwyddyn honno, roeddynt yn gwarchae ar Bergerac. Daeth Syr Thomas Felton gyda byddin Seisnig i geisio codi'r gwarchae, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Ffrengig, gydag Owain yn un o'i harweinwyr. Cymerwyd Felton, oedd yn ddistain Bordeaux, yn garcharor. Ildiodd Bergerac, a chipiodd y Ffrancwyr nifer o drefi eraill yn y misoedd nesaf.[15] Yr un flwyddyn, yn Llundain, dienyddiwyd marchog o Sais, Syr John Minsterworth, am deyrnfradwriaeth oherwydd ei fod wedi cynllwynio gydag Owain.

Roedd sôn fod Owain yn cynllunio ymgyrch arall i hawlio coron Cymru, y tro hwn gyda chymorth Castile. Oherwydd ei allu milwrol, ei ddilyniant poblogaidd a'i hawl i frenhiniaeth Cymru, roedd brenin Lloegr yn dal i ofni Owain ac fe gynlluniwyd i'w ladd. Yn 1378, wedi i'r Ffrancwyr gipio Duras, gyrrodd Dug Anjou Owain gyda byddin i warchae ar Mortagne-sur-mer (yn departement Charente-maritime heddiw), caer bwysig oedd yn gwarchod aber y Gironde.

Llofruddiaeth Owain golygu

 
Gwarchae Mortagne.
 
Mortagne heddiw

Tra'r oedd Owain yn gwarchae ar Mortagne, cyrhaeddodd gŵr o'r enw John Lamb yno. Roedd wedi cyrraedd Llydaw, gan ddweud ei fod wedi dod o Gymru gyda neges i Owain, a hebryngwyd ef i Mortagne. Mewn gwirionedd, roedd yn asiant cudd yn nhâl y Saeson. Dywed rhai cofnodion mai Albanwr ydoedd, ond dywed Froissart iddo siarad "yn ei iaith ei hun" ag Owain, h.y. ymddengys fod y ddau'n siarad Cymraeg.

Enillodd ymddiriedaeth Owain, a'i gwnaeth yn siambrlen iddo. Ymddengys ei fod yn arferiad gan Owain gribo'i wallt yn y bore dan edrych ar gastell Mortagne. Un bore, roedd wedi gyrru Lamb i gyrchu ei grib gwallt, a phan ddychwelodd Lamb, trywanodd Owain, nad oedd yn gwisgo llurig ar y pryd. Ffôdd Lamb i gastell Mortagne, lle mynegodd ceidwad y castell, y Syndic de Latrau, ei ddirmyg o'i weithred:

A, felly, yr wyt wedi ei lofruddio; oni bai fod y weithred hon mor fanteisiol i ni, byddet yn colli dy ben; ond ni ellir dadwneud yr hyn sydd wedi ei wneud. Ond y mae'n beth difrifol fod y gŵr bonheddig hwnnw wedi cael ei ladd yn y fath fodd; fe gawn ni fwy o fai na chlod o'r herwydd. [16]

Claddwyd Owain yn eglwys Saint-Léger yn Mortagne; yn anffodus cafodd yr eglwys honno ei dymchwel yn 1884 ac nid oes unrhyw olion o'i fedd i'w gweld heddiw. Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Mortagne ym mis Awst 2003.

Ceir cofnod yn Issue Roll Trysorlys Lloegr, wedi ei ddyddio 4 Rhagfyr 1378:

To John Lamb, an esquire from Scotland, because he lately killed Owynn de Gales, a rebel and enemy of the King in France ... £20.

Awgryma A. D. Carr mai hwn oedd y pris yr oedd y llywodraeth Seisnig wedi ei roi ar ben Owain.

Etifeddiaeth golygu

 
Cerflun o Owain Glyn Dŵr yng Nghorwen

.

Mae ymateb beirdd y cyfnod ynghyd a'r chwedlau dilynol amdano yn brawf ei fod yn fwy na dim ond Capten llwyddiannus ym Myddin Ffrainc. Owain oedd gobaith olaf Tywysogaeth Gwynedd a Chenedl y Cymru. Canodd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd awdl yn ei annog i ddychwelyd o Ffrainc er mwyn rhyddhau Cymru a goresgyn Lloegr.[17] Ceir cerdd arall iddo a briodolir weithiau i Iolo Goch, er na chafodd ei chynnwys yn yr argraffiad safonol o waith Iolo. Mae cerdd arall, wedi llofruddiaeth Owain, yn awgrymu fod cryn ddisgwyl wedi bod amdano yng Nghymru, a bod meirch ac arfau wedi eu paratoi i ymladd drosto:

Gwiliaw traethau yn ieufanc
Gorllanw ffrwyth gorllwyn Ffrainc
Prynu meirch glud hybarch glod
Ac arfau ar fedr gorfod
Yn ôl oiri yr aeth ini
Er edrych am ŵyr Rodri
Llyna och ym lle ni chawdd
Lleddid, a diawl a'i lladdawdd[18]

Daethpwyd i uniaethu Owain a'r Mab Darogan, y gwaredwr a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth derfynol ar y Saeson a'u gyrru allan o Ynys Prydain gan adfer y deyrnas i feddiant y Cymry, disgynyddion y Brythoniaid. Yng nghyfnod Owain, dechreuodd corff mawr o gerddi darogan poblogaidd gylchredeg y wlad, yn proffwydoli ail-ddyfodiad y Mab Darogan a'i alw gan amlaf yn "Owain," traddodiad a barhaodd hyd y ganrif ddilynol. Mae'r ansoddair llawgoch ei hun yn awgrymiadol yng nghyd-destun y brudiau. Gellir ei ddeall yn llythrennol fel ansoddair sy'n addas i arwr, wrth reswm, ond ceir tystiolaeth bod staen neu farc coch ar y llaw yn arwydd meseianig yn nhraddodiad Iwerddon, e.e. yn achos Cathal Crobderg (Llawgoch), Brenin Connacht (bu farw 1224).[19]

Fe ragbaratodd y ffordd i Owain arall ei ddilyn: Owain Glyn Dŵr. Mabwysiadodd Glyn Dŵr arfbais Owain Lawgoch, oedd yn fersiwn o arfbais Teyrnas Gwynedd, ond gydag ystum y llewod yn wahanol i'r rhai ar arfbais Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd; newid a wnaed yn ôl R.R. Davies gan un o hynafiaid Owain Lawgoch. Trwy gymeryd yr arfau hyn, roedd Glyn Dŵr yn ei gyhoeddi ei hun yn olynydd Owain Lawgoch. Pan yrrodd lysgenhadon at frenin Ffrainc, atgoffodd Glyn Dŵr y brenin fod Owain Lawgoch wedi marw yng ngwasanaeth Siarl V, brenin Ffrainc.[20]

Chwedloniaeth golygu

Ceir chwedlau am Owain yn cysgu mewn ogof, i ddeffro ryw ddydd i achub ei wlad. Mae'r rhain yn fersiwn Gymreig o'r motif rhyngwladol, y Brenin yn y mynydd. Mae un fersiwn o Geredigion fel a ganlyn. Roedd Dafydd Meurig o Bettws Bledrws yn helpu i yrru gwartheg o sir Aberteifi i Lundain. Ar y ffordd, torrodd ffon gollen iddo'i hun, ac roedd yn dal i gario'r ffon pan gyfarfu a dieithryn ar Bont Llundain. Holodd y dieithryn lle'r oedd wedi cael y ffon, a'r diwedd fu iddo fynd gyda Dafydd yn ôl i Gymru, ac i'r fan lle roedd Dafydd wedi torri'r ffon.

Gorchymynodd y dieithryn i Dafydd dyllu o dan y llwyn lle cafodd y ffon, a daeth grisiau i'r golwg, yn arwain i lawr i ogof. Yn yr ogof roedd dyn saith troedfedd o daldra a chanddo law goch yn cysgu. Dywedodd y dieithryn wrth Dafydd mai Owain Lawgoch ydoedd, "sy'n cysgu hyd yr amser penodedig; a phan ddeffry bydd yn frenin y Brythoniaid".[21]

Ceir chwedl debyg o Sir Gaerfyrddin, lle dywedir fod Owain a'i wŷr yn cysgu yn Ogo'r Ddinas, ychydig i'r gogledd o dref Llandybïe.[22] Ar un adeg, gelwid llyn chwarel Aberllefenni yng Ngwynedd yn Llyn Owain Lawgoch, ac mae hanesyn yn ei gysylltu a'r plasdy cyfagos, Plas Aberllefenni.[23]

 
Caestell Cornet at Ynys y Garn; castell y bu Owain yn gwarchae arno

Ceir chwedloniaeth am Owain ar Ynys y Garn hefyd, lle cofir amdano fel Yvon de Galles. Troes y côf amdano ef a'i wŷr yn chwedl am ymgyrch gan lu o dylwyth teg, bychain ond golygus. Cafodd merch o'r enw Lizabeau hyd i frenin y tylwyth teg hyn wedi ei longddryllio ar draeth ar yr ynys. Wedi iddo ddeffro, syrthiodd brenin y tylwyth teg mewn cariad a hi, a chariodd hi dros y môr i fod yn frenhines iddo. Fodd bynnag, roedd y tylwyth teg eraill yn dymuno cael gwragedd hefyd, ac ymosodasant ar yr ynys. Lladdwyd pawb o wŷr yr ynys heblaw dau, a ymguddiodd mewn ogof, a phriododd y tylwyth teg a merched Ynys y Garn. Hyn, yn ôl y chwedl, sy'n gyfrifol am y ffaith fod trigolion Ynys y Garn yn fychan a bod ganddynt wallt tywyll.[24]

Cadwyd baled am Owain a'i wŷr o Ynys y Garn hefyd. Mae'r faled yn hollol anhanesyddol o ran y digwyddiadau a nodir, ond dywedir fod gan Owain wraig o'r enw Elinor. Mae hefyd yn rhoi eglurhad am yr enw "Lawgoch" trwy adrodd fod yn o wŷr Ynys y Garn wedi ei glwyfo yn ei law.

Llyfryddiaeth golygu

  • A. D. Carr, Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd (Y Colegiwm Cymraeg, 1987)
  • A. D. Carr, "Owain Lawgoch:yr etifedd olaf", yn Cof Cenedl V, gol. Geraint Jenkins (Gwasg Gomer, 1990), tt. 1-27
  • A. D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991): yr astudiaeth safonol o oes a gyrfa Owain Lawgoch
  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995
  • R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 2000)
  • Desmond Seward, The Hundred Years War: the English in France 1337-1453 (Constable, 1978)

Cyfeiriadau golygu

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin; 1990), tud. 185
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 22 Gorffennaf 2015
  3. Seward, tt. 107-111
  4. John Davies, Hanes Cymru (2007), t. 175
  5. Carr, Owen of Wales, t. 19
  6. Carr, Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd, tt. 18-9
  7. Carr, Owen of Wales, t. 22
  8. Carr, Owain Lawgoch: yr etifedd olaf, t.8
  9. Carr, Owen of Wales, tt. 35-6
  10. Carr, Owen of Wales, t. 37
  11. Carr, Owain Lawgoch:yr etifedd olaf, t. 13
  12. "Gugler", Historisches Lexicon der Schweiz
  13. Carr, Owen of Wales, t. 48
  14. Carr, Owen of Wales, t. 49
  15. Carr, Owen of Wales, tt. 51-53
  16. Cyfieithiad o Froissart gan A. D. Carr; Carr Owain Lawgoch: yr etifedd olaf, t. 17
  17. Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein
  18. Elissa R. Henken, National redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh tradition, t. 50
  19. James Carney, "Literature in Irish, 1169-1534", yn Medieval Ireland 1169-1534, gol. Art Cosgrove, dyfynnir yn Owen of Wales, tud. 119n.
  20. R. R. Davies, The revolt of Owain Glyndŵr, tt. 160-1, 163
  21. John Rhys, Celtic Folklore: Welsh and Manx, tt. 464-5
  22. John Rhys Celtic Folklore: Welsh and Manx tt. 467-9
  23. Cofnodir yr hanes yn J. Arthur Williams, Trem yn Ôl
  24. Marie de Garis, Folklore of Guernsey (1986) ASIN: B0000EE6P8

Dolen allanol golygu

Owain Lawgoch
Ganwyd: 1330 Bu farw: Gorffennaf 1378
Rhagflaenydd:
Thomas ap Rhodri
Pennaeth Tŷ Aberffraw
13631378
Olynydd:
Robert ap Maredudd
Rhagflaenydd:
Madoc
Tywysog Gwynedd a Chymru mewn enw
13721378
Olynydd:
Owain Glyn Dŵr