Owen Jones (pensaer)

pensaer a chynllunydd darluniau a phatrymau addurnol

Pensaer ac awdur o dras Cymreig oedd Owen Jones (15 Chwefror 180919 Ebrill 1874). Roedd yn un o arloeswyr chromolithograffeg.

Owen Jones
Ganwyd15 Chwefror 1809 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 1874 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, cynllunydd, darlunydd, goleuwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Crystal Palace, Grammaire de l’ornement, 1865, The Grammar of Ornament, The Book of Common Prayer, and Administration of the Sacraments, and other Rites and Ceremonies of the Church, according to the Use of the United Church of England and Ireland, with Notes., The Sermon on the Mount, Ancient Spanish Ballads Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Llundain, yn fab i Owen Jones (Owain Myfyr). Wedi iddo gael ei brentisio i swyddfa pensaer am chwe blynedd, treuliodd bedair blynedd yn teithio yn yr Eidal, Gwlad Groeg, Twrci, yr Aifft a Sbaen. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r Alhambra yn Granada.

Llun o The Grammar of Ornament (1856)

Wedi dychwelyd i Lundain yn 1836, bu'n gweithio fel pensaer, yn arbenigo mewn tu mewn adeiladau. Roedd yn un o'r arolygwyr ar gyfer Arddangosfa 1851 ac yn gyfrifol am addurno'r Palas Grisial. Sefydlodd y Museum of Manufacturers, rhagflaenydd y Amgueddfa Victoria ac Albert. Yn 1856 cyhoeddodd ef a'r Arglwydd Brougham gynllun ar gyfer "Palas y Bobl", a gwblhawyd yn 1873 fel yr Alexandra Palace.

Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, The Grammar of Ornament yn 1856, a chafodd ddylanwad mawr trwy gyflwyno gwaith celf addurnol o wledydd y dwyrain i'r gorllewin.

Cyhoeddiadau golygu

  • Plans, Elevations and Details of the Alhambra (1835-1845), gyda MM. Goury a Gayangos
  • Designs for Mosaic and Tesselated Pavements (1842)
  • Encaustic Tiles (1843)
  • Polychromatic Ornament of Italy (1845)
  • An Attempt to Define the Principles which regulate the Employment of Color in Decorative Arts (1852)
  • Handbook to the Alhambra Court (1854)
  • Grammar of Ornament (folio, 1856; quarto, 1868–1910)
  • One Thousand and One Initial Letters (1864)
  • Seven Hundred and Two Monograms (1864)
  • Examples of Chinese Ornament (1867)